Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref Home

 

Y Rhaglen

Gwasanaeth o Werthfawrogiad a Dadorchuddio Cofeb Myfyr Emlyn,

The Programme

Service of Appreciation and Unveiling of the Myfyr Emlyn Memorial

 

BETHABARA.
Cofeb
MYFYR EMLYN.

Memorial
Parchg. Benjamin Thomas.
Gweinidog y Bedyddwyr, Bardd, Darlithydd, ac Awdur .
Revd. Benjamin Thomas.
Baptist Minister, Poet, Lecturer, and Author.
1836 - 1893
A anwyd yn Tyrhos, Eglwyswen
Born at Tyrhos, Whitechurch

Gwasanaeth o Werthfawrogiad
a Dadorchuddio Cofeb Myfyr Emlyn,
Yn cynnwys peth o'i waith
- Cerddi, Emynau a Chaneuon

Service of Appreciation
and Unveiling of the Myfyr Emlyn Memorial
Featuring some of his work
- Poems, Hymns and Songs

Dydd Sadwrn, Hydref 21ain am 1.30yp.

Saturday, October 21st at 1.30pm

Bydd paned o de yn y Festri i ddod â’r seremoni i ben.

There will be a cup of tea in the Vestry to bring the ceremony to a close.

“Ond ni ddiffoddir byth mo’r tân
Gyneu’sant hwy ar rôs Glynma’n.


-------------

Telynores Leia Wyn Burge. Harpist Leia Wyn Burge
Cyflwynydd Parchg. Rhosier Morgan.
Presenter Revd. Rhosier Morgan.

Emyn - Hymn -Yr Ysbryd Megis Gwlith - Myfyr Emlyn.
Darllenir gan Elizabeth John.. Read by Elizabeth John.
Organydd - Ceirwyn John. Organist - Ceirwyn John.

Y mae hiraeth arnom, Arglwydd,
Am dy Ysbryd ar ein hynt,
I’n sancteiddio, a’n hadfywio,
Megis yn y dyddiau gynt:
O ! disgynned
’N awr fel gwlith neu dyner law.

Gwna ni’n iraidd fel y glaswellt
O dan faethlon wlith y nen;
Gwna ni’n ffrwythlon fel y gwinwydd,
Prydferth fel y lili wen:
Er gogoniant
Byth i’th enw annwyl Di.

Mark Cole - Amlinelliad o fywyd Myfyr Emlyn.
Mark Cole - An outline of Myfyr Emlyn's life.

Darlleniad - Reading.

Rhian Selby - Yr Afon Fach a Heibio'r Ty.

Heledd Fflur Evans - Cân y D.D.

Rebecca Tadman - My Boyhood.

Cân - Song
Robert Jenkins - "Yr Hen Gerddor"
Margaret Rhys - Cyfeilydd /Accompanist.

------------

 

‘Come Down to Bethesda’
Darllenir gan Parchg. Chris P Rees. - Read by Revd. Chris P Rees.

[ This was written by Myfyr Emlyn – Rev Benjamin Thomas and was sung at the

opening services of Bethesda Baptist chapel, Narberth.] [1889]

Come down to this Bethesda,
May we Thy presence feel;
Come down to move the waters,
Come down to help and heal;
Make it a “House of Mercy”
And prayer, Lord, we crave;
Come down in all Thy glory,
Almighty One to save !

Come down to teach all ages
Obedience to Thy rule;
Come down, Thou friend of children,
And bless our Sunday School;
When we who built this temple
Are come to Thee, by grace,
Oh ! help our children's children
To worship in this place.

Our sainted friends in heaven
Are near, though far away,
And in their snow-white garments
Rejoice with us to-day;
With praise and adoration
This happy day we see,
And dedicate this building
With singing, Lord, to Thee.

Lord, we have built this temple,
In honour of Thy name;
O fill it with Thy glory,
And with the Saviour’s fame,
May those who worship here
All to Thy glory live;
And when we pray, Our Father,
O answer and forgive.

------------

Dadorchuddio y Gofeb - Unveiling of the Memorial.

Eirwyn George i siarad cyn ei dadorchuddio gan Monica Sheaf,
h.h. wyres Myfyr Emlyn.
Eirwyn George to speak before the unveiling by Monica Sheaf,
g.g. granddaughter of Myfyr Emlyn.

Cymerwch y cyfle i gymdeithasu gyda phaned o de yn y Festri
Croeso i bawb.Please take the opportunity to socialise with a cup of tea at the Vestry
Welcome to all.


Dymunwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud y diwrnod hwn yn bosib
We wish to thank everyone who has made this day possible.
Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro.
Eglwyswrw and District Heritage Society.

------------

 

 

Uchod - Llun grwp ym Methesda Arberth, Parch Benjamin Thomas yng nghanol yr ail res o'r cefn. / Above Group photo at Bethesda Narberth Rev Benjamin Thomas in the centre of second row from back

Chwith - Cerreg Goffa Myfyr Emlyn ym mynwent -Bethabara Pontyglasier. / Left - The Myfyr Emlyn Memorila Stone in the cemetery at Bethabara Pontyglasier.

Ar y dde - Carreg fedd Myfyr Emlyn ym mynwent Bethesda, Arberth. / Right - The Myfyr Emlyn Memorila Stone in the cemetery at-Bethesda, Narberth

Nodyn o ddiolch gan ein Llywydd
Beatrice Davies Cymraeg
gyda rhywfaint o hanes y prosiect
  Note of thanks from our President
Beatrice Davies English
with some of the history of the project

 

Yn dilyn Gwasanaeth Cofeb Myfyr Emlyn, carwn ddiolch i bawb a gydweithredodd ac a gyfrannodd at y fenter – yn ardalwyr, Gweinidog ac aelodau Bethabara a chyd-aelodau y Gymdeithas – gwelwyd cefnogaeth gadarn o sawl cyfeiriad.
Trefnwyd y gweithgareddau ynglyn â’r Gwasanaeth Cofio a Dadorchuddio'r Garreg Goffa yn broffesiynol yn ôl ei arferiad gan Will Thomas.
Sbardunwyd y fenter gan awydd Ieuan James a Tom Evans i godi Cofeb i Myfyr Emlyn, y gwr nodedig a fagwyd ar Rhos Glynmaen. Saif y garreg drawiadol yn Mynwent Bethabara ger cartref ysbrydol ei deulu. Llongyfarchiadau i Rheinallt Selyf am ei gampwaith – y syniad wedi ei selio ar syniad ei gyfneither Elin Owen. Ieuan a ddaeth o hyd i’r garreg a chydag ewyllys da ei gymdogion Mr a Mrs Neville Roberts fe’i sicrhawyd, Fe’i cludwyd a’i gosod yn ei lle gan Ieuan, Rheinallt a Hefin Evans.
Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad y tri ifanc – Leia Wyn Burge (telynores), Heledd Fflur Evans a Meilyr Tomos – braf oedd gweld fath ystod o oed a thalentau yn gwau trwy ei gilydd i greu rhaglen amrywiol a phwrpasol.
Profwyd cwmnïaeth gynnes i ddilyn y seremoni – llawer o ddiolch i Enid a’i chefnogwyr fu’n paratoi’r “te festri” flasus ac i’r gwirfoddolwyr niferus fu’n gweini.
Mae’r “afon fach” a heibio Tyrhos wedi ymdroelli llawer ers llencyndod Myfyr Emlyn -
“Ond ni ddiffoddir byth mo’r tân
Gyneu’sant hwy ar rôs Glynma’n”

Beatrice Davies (ar rhan Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro).

 

The following is a translation of the above.

Following the Myfyr Emlyn Memorial Service, I would like to thank all those who contributed to the project – local people, members and the Minister of Bethabara chapel and fellow members of the Society - there was much support from many directions.
The programme for the Service of Appreciation and Unveiling of the Myfyr Emlyn Memorial was organized by Will Thomas.
The initiative was triggered by Ieuan James and Tom Evans who wanted to have a memorial to the notable Myfyr Emlyn, a man raised on Rhos Glynmaen. An impressive stone now stands at Bethabara Cemetery near the spiritual home of his family.
We congratulate Rheinallt Selyf for his masterpiece – based on the idea and design that his cousin Elin Owen had created. It was Ieuan who found a suitable stone and it was secured with the goodwill of his neighbours Mr and Mrs Neville Roberts, it was transported and erected by Ieuan, Rheinallt and Hefin Evans.
We appreciate the contribution of the three youngsters - Leia Wyn Burge (harpist), Heledd Fflur Evans and Meilyr Tomos - it was nice to see a range of ages and talents performing together to create a varied and purposeful programme.
Following the ceremony the congenial company enjoyed tea that was served at the Vestry - many thanks to Enid and her supporters who prepared the tasty "Vestry Tea" and for the many volunteers who served.
The "little stream" (Yr Afon Fach) that ran past the little cottage of Tyrhos has seen a great deal since Myfyr Emlyn's childhood -


“Ond ni ddiffoddir byth mo’r tân
- gyneu’sant hwy ar rôs Glynma’n”
‘But the fire [The Cause] that they started on ‘Rhos Glynmaen’ will never be extinguished’

Beatrice Davies (on behalf of Eglwyswrw and District Heritage Society).