Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Home


Hanes Parchg. Benjamin Thomas – Myfyr Emlyn.

Bu farw y Parch Benjamin Thomas Tachwedd 20fed 1893 yn 57oed.
Ruchacre oedd ei gartref am amser hir, tu-allan i bentref Arberth, ond amser ei farwolaeth mae’n debyg ei fod wedi symud i fyw yn Arberth. Roedd wedi bod yn weinidog ar Eglwys Bethesda ers 1875. Ei enw barddonol oedd Myfyr Emlyn.

Un o blant Bethabara oedd yr enwog Myfyr Emlyn, cafodd ei eni mis Hydref, 1836 mewn bwthyn bach o’r enw Tyrhos, ym mhlwyf Eglwyswen, Sir Benfro, adnabyddir yr ardal yn lleol fel ‘Rhos Glynmaen’.
Gerllaw Tyrhos mae afon fach lle bu Myfyr yn chware lawer gwaith, i’r hon y canodd y gerdd sydd yn cynnwys y geiriau canlynol.
“Ond ni ddiffoddir byth mo’r tan Gyneu’sant hwy ar rôs Glynmaen.”

Nid oes llawer blant a fagwyd yn yr ardal yn y ganrif ddiwethaf heb glywed y geiriau uchod.
Enw tad Myfyr Emlyn oedd Dafydd Thomas, un o sylfaenwyr achos y Bedyddwyr yn yr ardal, ac enw ei fam oedd Elizabeth, yr hon oedd yn chwaer ysgrythurol ac oedd rhoi addysg i’r plant yn bwysig iddynt. Yn Tyrhos yn 1823, cynhaliwyd yr Ysgol Sul gyntaf yn yr ardal.
Cafodd Dafydd Thomas ei eni yn mhlwyf Llanfair Nantgwyn tua 1797, a Elizabeth yn Llandissilio tua 1793.
Ganed iddynt wyth o blant – Thomas g1823; Owen g1825; Daniel tua 1827; Martha g1830; Stephen g1832; Mary g1834; Benjamin g1836; Hannah g1840.
Derbyniodd Benjamin Thomas ei addysg elfennol yn ysgol Penygroes, yr hon oedd dan ofal y Parch.Simon Evans, Hebron.
Wedi i deulu Tyrhos symud i Bantygarn, Eglwyswrw yn 1849, elai i’r ysgol ddyddiol yn Elim, capel y Bedyddwyr yn Eglwyswrw. Tra yn Eglwyswrw dysgodd yr un grefft a’i dad, sef saer maen, a phan tua bymtheg neu un-ar-bymtheg oed aeth i ffwrdd i Dredegar, ac yno yn Siloh y bedyddiwyd ef gan y Parch. J. Rowe, Risca, yn Awst,1852.

Daeth yn nôl i’r ardal, a dechrau pregethu. Yn 1856 aeth i Ysgol Ramadeg Abergwaun, ac oddi yno aeth i Athrofa Hwlffordd. Yn 1858 aeth i Athrofa Caerodor (Bryste).
Tua Hydref, 1860, ordeiniwyd ef yn weinidog Capel y Graig, Castellnewydd Emlyn, a Drefach.

Priododd Benjamin a Margaret George ar 28ain o Fai, 1861, merch Fferm y Beili, Llandygwydd.
Ganwyd iddynt bump o blant o blant, – Elizabeth g1865; Ieuan.G. g1866, m1936; William.O. g1870; Margaret. E. (Martha) g1873, m1911, bu farw un yn blentyn yn ifanc.
Yn 1873 symudodd at y Saeson ym Mhenarth, [Tabernacl] ac yn 1875 cymerodd ofal eglwys Bethesda, Narberth, a bu yno hyd ei farwolaeth.

Ail adeiladwyd Tabarnacl, Penarth yn 1874, yn amser ei weinidogaeth yno ac hefyd Bethesda Arberth yn 1889 pan oedd yn Weinidog yr Eglwys.
Bu farw Margaret ei wraig Tachwedd 28ain, 1878 yn 41oed tra roedd y plentyn ifancaf dim ond pum mlwydd oed. Iddi hi ysgrifennodd Myfyr Emlyn y penillion, 'Y Ferch o Lanau Teifi'

Ail wraig Benjamin oedd gwidw David Lewis (Cynfyn), ‘Corn merchant’ Caerfyrddin.
Bu farw Myfyr Emlyn wedi cystudd byr Tachwedd 20ain, 1893, yn 57 mlwydd oed. Claddwyd ym mynwent Bethesda, Arberth. Yr oedd ei angladd yn un o’r mwyaf a welwyd yn y sir. Yn nol hanes yr angladd ‘Obituary’ roedd tua 16 wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth angladdol, rhan fwyaf ohonynt yn bregethwyr, roedd cyfanswm o haner cant neu fwy o bregethwyr yn bresennol.
Roedd ei fab Dr Ieuan Thomas, [ Doctor of works ] Hirwaun yn methu bod yn yr angladd oherwydd niwed i’w goes. Roedd iddo fab arall William yn bresennol, roedd William yn fferyllydd yn Ffrainc ac aeth yn hwyrach i America.

Mae ei garreg bedd yn sefyll yn union tu ôl i’r capel ym Methesda Arberth.
Mae maent y garreg bedd a’i gosodwyd gan aelodau Bethesda a phobl lleol yn dangos pa mor barchus oedd Myfyr Emlyn yn yr ardal.

Parchg. Benjamin Thomas
Gweinidog y Bedyddwyr,.
Gweinidogaethodd yn y Capeli Canlynol
Y Graig, Castell Newydd Emlyn a Drefach. 1860 – 1873
Tabernacl Penarth. 1873 – 1875. (Seisnig)
Bethesda, Arberth. 1875 – 1893. (Seisnig)
Bardd, Darlithydd, ac Awdur
Golygydd - SEREN CYMRU
Aelod o Bwyllgor Hathrofa Hwlffordd.
Yr unig Gymro a wahoddwyd i gyfrannu at y ‘Pulpit Commentary’, (Seisnig)
Cofiant "Dafydd Evans, Ffynonhenry”. Oedd un llyfr o’i waith a oedd yn boblogaidd iawn.

 

 

Uchod - Llun grwp yn Bethesda Arberth,

Parch Benjamin Thomas yng nghanol yr ail res o'r cefn.

Chwith - Cerreg Goffa Myfyr Emlyn ym mynwent capel

Bethabara Pontyglasier.

Ar y dde - Carreg fedd Myfyr Emlyn ym mynwent capel

Bethesda, Arberth.