Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Home
TRYCHINEB AR FRYNIAU PRESELI.
Bu farw dau aelod o ysgol Sul, Seion ar ddydd Sul Gorffennaf 30.1944.

Y stori fel y nodwyd yn y blynyddoedd dilynol.
Ar ddydd Sul y drychineb, bwriedir i Milton Jones 16 oed a Donald Pritchard 14 oed fynd i ysgol Sul yn nghapel Seion, Crymych.
Roedd cofrestr yr ysgol Sul yng ngofal Milton, ond roedd wedi gofyn i ddisgybl arall yn yr ysgol Sul, Vince Davies, ofalu am y gofrestr, fel gallai fynd gyda Donald i gerdded ar y bryniau.
Mae'n debyg y byddai ei frawd Roy wedi mynd gyda nhw, ond roedd wedi trefnu mynd i rywle arall yn ddiweddarach yn y dydd.
Roedd gan Milton ddiddordeb ym mhob peth mecanyddol. Mae'n rhaid iddynt fod wedi trin neu symud ordnans milwrol, pan ffrwydrodd a bu y ddau farw.
Roedd hwn yn gyfnod byr ar ôl i'r milwyr a fu'n hyfforddi ar fryniau'r Preseli adael i ymladd yn Ewrop.
Roedd Milton yn fab i Oliver James Jones a Margaret Ann Jones, Cefn Mawr, Crymych.
Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberteifi ac wedi gwneud yn dda yn yr arholiadau, derbyniodd y teulu y canlyniadau ym mis Awst. 1944, ychydig amser ar ôl y ddamwain.
Roedd Donald a'i frawd a'i chwiorydd gyda'u mam wedi dod i'r ardal o Abertawe yn faciwîs ryw dair blynedd cynt, symud o'r perygl a achoswyd gan fomwyr o’r Almaen.
Mynychodd y plant ysgol Ramadeg Aberteifi. Roedd eu tad oherwydd ei waith wedi aros gydag aelodau o'r teulu ger Llanelli.
Adeg y drychineb roedd Donald wedi gadael yr ysgol i weithio gyda cwmni W.H.James, ‘Ironmonger’ yng Nghrymych.
Roedd Gorffennaf 30ain hefyd yn ddiwrnod pen-blwydd mam Donald, roeddent wedi paratoi te arbennig i ddathlu pan ddaeth y newyddion am y ddamwain.
Cynhaliwyd Gwasanaeth Angladd y ddau yn Seion, Crymych ddydd Iau, Awst 3ydd ac a’u claddwyd ym Mynwent Seion.
------------------------

Tua'r un pryd a dechreuwyd prosiect ‘Cofeb Rhyfel’, dechreuwyd brosiect arall i gofio'r ddau fachgen a laddwyd drwy ddamwain ar fryniau'r Preseli.
Fe wnaethon ymchwilio hanes y ddamwain a bu trafod gyda aelodau Seion a oedd yn gefnogol iawn i’r prosiect. Bu Rheinallt yn trafod gydag athrawon ysgol Sul Seion er mwyn cynnwys pobl ifanc yr ardal yn y prosiect i annog eu diddordeb mewn hanes lleol. Trefnwyd taith i fynd â phlant a phobl ifanc yr ysgol Sul i ymweld ag amgueddfa ‘Tin Shed’ yn Nhalacharn, amgueddfa sy'n arbenigo mewn cyfnod yr Ail Ryfel Byd, ac yna i fwynhau gweddill y diwrnod mewn atyniad lleol arall.
Fe wnaethom gysylltu ag aelodau Capel Seion gyda'r syniad o gael plac Coffa a’i osod ar wal fewnol y capel, eto roeddent yn gytyn a chefnogol.
Gan ein bod yn fodlon iawn a gwaith Malcolm Gray ar y Gofeb Rhyfel, gofynnom iddo gynhyrchu plac, yn debyg i blac oedd eisoes ar un ochr i'r pulpud yn Seion.
Ar 20 Mehefin 2014 gosododd Malcolm y plac ar y wal.
Trefnwyd y gwasanaeth dadorchuddio ar gyfer Awst 31ain, gyda'r plant yr ysgol Sul yn cymryd rhan flaenllaw.
Mynychodd llawer o berthynasai y bechgyn y gwasanaeth; roedd rhai wedi teithio pellter hir i fod yno. Wedi’r gwasanaeth roedd te yn y festri, lle y bu pobl yn sgwrsio a chyfnewid yr hyn gallent ddwyn i gof o’r digwyddiad drasig saith deg mlynedd gynt.

 

Y plac i gofio
John Lloyd Milton Rhys Jones, 16 oed.
Donald Pritchard, 14 oed.

 
Gartref

 

 

Home