Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Cyfarfodydd a Gweithgareddau 2024.
Home

Nodiadau o'r Cofnodion

Ionawr 2024.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y flwyddyn newydd yn Yr Hen Ysgol nos Lun, Ionawr 8fed am 7.30pm.
Roedd yna nifer dda yn y cyfarfod. Ar ôl gair o groeso gan ein Cadeirydd Glynwen Bishop, dangoswyd ffilm, 50 munud, sef casgliad o ffilmiau sine a gymerwyd gan Harley Morgan yn y 1950au a’r 1960au. Ffermio, Digwyddiadau CFfI, Pentref a'i Gymeriadau a Phriodasau.
Cipolwg ar y gorffennol, a ffordd o fyw arafach. Ar ôl paned a bisgedi arferol a’n gwesteion wedi gadael, cynhaliwyd cyfarfod busnes byr o dan gadeiryddiaeth Glynwen.
Bydd y cyfarfod nesaf ar Chwefror 12fed – 7.30pm yn Yr Hen Ysgol.
Ein siaradwraig gwadd fydd Heather Tomos.
Teitl ei chyflwyniad fydd ‘Tribiwnlysoedd Milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf’.

Chwefror, 2024.
Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Chwefror ar nos Lun y 12fed, ac roedd nifer dda yn bresennol. Agorodd ein cadeirydd y cyfarfod gydag ychydig eiriau o groeso. Y siaradwraig gwadd oedd Heather Tomos a theitl ei chyflwyniad oedd Tribiwnlysoedd Milwrol y Rhyfel Byd Cyntaf. Dechreuodd Heather drwy roi manylion am sut ddechreuodd y rhyfel, llofruddiaeth Archddug Awstria, Franz Ferdinand a'i wraig ar Fehefin 28 1914, ac ar Orffennaf 28 cyhoeddodd Awstria-Hwngari ryfel ar Serbia. Cyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ar Awst 4ydd, 1914. Dim ond cyfran fechan o'r hyn oedd gan y gelyn oedd gan fyddin Prydain ar y pryd. Roedd angen mawr am wirfoddolwyr i hybu niferoedd y fyddin. Rhuthrodd dynion ieuainc i ymuno, llawer i ddianc rhag tlodi a chaledi oedd yn gyffredin y pryd hwnnw. Ym 1914 daeth Horatio Herbert Kitchener yn Ysgrifennydd Gwladol y Ryfel. Roedd cyflwyniad Heather yn dangos ar y sgrin fawr nifer o’r posteri yn annog dynion ifanc i ymuno, gyda sloganau’r cyfnod, “Your Country Needs You” ac ati. Dywedodd fod arweinwyr crefyddol ac aelodau blaenllaw eraill o’r gymdeithas hefyd yn annog dynion ifanc i fynd a gwneud eu rhan dros eu gwlad.
Ymrestrodd mwy na miliwn o ddynion, ond erbyn diwedd 1915 wrth i’r rhyfel ehangu, nid oedd hyn yn ddigon i gymryd lle’r rhai a laddwyd ar faes y gad. Penderfynodd y Llywodraeth ddod â chonsgripsiwn i mewn. Roedd pob dyn sengl rhwng 18 a 41 oed yn agored i gael eu galw i wasanaeth milwrol, oni bai eu bod yn weddw gyda phlant, yn hwyrach, roedd dynion priod hefyd yn cael eu galw i wasanaethu. Ond roedd eithriadau, nid oedd dynion a oedd yn gwneud gwaith o bwysigrwydd cenedlaethol yn cael eu galw i’r fyddin. Sefydlwyd tribiwnlysoedd i benderfynu a oedd rheswm digonol i ganiatáu eithriad i'r rhai a oedd yn gwneud y cais. Effeithiwyd hyn yn ddrwg ar deuluoedd ffermio. Byddai fferm deuluol gyda dau neu dri mab yn gweithio ar y fferm yn gweld un neu efallai ddau o’r meibion yn cael eu galw i wasanaethu yn y fyddin, fel y penderfynwyd gan y panel tribiwnlys, a oedd yn cynnwys aelodau blaenllaw o’r gymdeithas gyda rhywun o’r fyddin neu o gefndir milwrol yn cynrychioli y swyddfa rhyfel. Roedd gan cynrychiolydd y swyddfa ryfel ddim cydymdeimlad o gwbl a'r ymgeiswyr. Roedd y tribiwnlysoedd yn faterion cyflym gyda ddim ond tua phum munud i bob achos. Cynhaliwyd y tribiwnlysoedd yn Saesneg, ac roedd hynny'n ei gwneud hi'n anoddach i'r rhai o Gymru wledig ar y pryd gan mai Cymraeg oedd eu mamiaith
Diolchodd Mike i Heather am ei chyflwyniad diddorol a bu rhai cwestiynau o’r gynulleidfa a arweiniodd at drafodaethau pellach.
Daeth y cyfarfod i ben gyda’r te a’r bisgedi arferol a pheth amser i gymdeithasu. Bydd y cyfarfod nesaf ar Fawrth 11eg yn Yr Hen Ysgol. Y siaradwr gwadd fydd Gerwyn Morgan a fydd yn rhoi blas i ni o’i lyfr diweddaraf “The Faded Glory” The Tivyside Squires and their Mansions.

Mawrth 2024.
Cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth yn Yr Hen Ysgol nos Lun Mawrth 11eg.
Cyn i’n cadeirydd gyflwyno’r siaradwr gwadd, gofynnodd am funud o dawelwch i gofio am John Evans, Castle Lodge, aelod cefnogol o’r Gymdeithas ers blynyddoedd lawer.
Ein siaradwr gwadd oedd Gerwyn Morgan sydd newydd gyhoeddi ei rifyn diweddaraf o’i lyfr “Faded Glory, The Tivy Side Squires and their Mansion”.
Roedd rhai o'r lluniau a dafluniwyd ar y sgrin yn dangos ysblander mewnol y plastai, er bod llawer wedi goroesi, yn anffodus mae rhai fel Bronwydd wedi'u dymchwel. Roedd y teulu Lloyd o Fronwydd a oedd yn berchen llawer o dir yn ein hardal yn uchel eu parch gan eu tenantiaid a’u cymdogion, gwnaethant lawer i gefnogi digwyddiadau lleol megis eisteddfodau a gwnaethant gyfraniad hael i eglwysi a chapeli lleol, Mae Capel y Drindod, Aberbanc a Chapel Annibynwyr Bryngwenith. wedi eu hadeiladu ar dir Bronwydd.
Nid oedd eraill bob amser yn cael eu parchu cystal â'r Lloyds.
Un arall a oedd gan Gerwyn air da amdano oedd Thomas Colby o Bantyderi, roedd Twm Colby, fel yr adnabyddid ef yn lleol, a chafodd ei addysg yn Bonn yn yr Almaen yn byw bywyd syml, ei hoff bryd o fwyd oedd ‘cawl’, yng anghyffredin, roedd y teulu yn bwyta eu prydau ar yr un bwrdd â’r gweision a gweithwyr fferm. Er mai dillad llafurwr oedd gwisg dyddiol Twm, ni esgeulusodd ei ddyletswyddau gyhoeddus, roedd yn Ynad Heddwch, yn Gynghorydd ac yn gwasanaethu ar Fwrdd Gwarcheidwaid Aberteifi. Bu farw yn 1912 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llanfair Nantgwyn.
Disgrifiodd Gerwyn lawer o’r hanner cant o blastai, eu stadau a’u perchnogion a oedd yn cael sylw yn ei lyfr, rhai ohonynt yn fwy na 10,000 erwau.
Diolchodd Tricia Fox i Gerwyn am ei gyflwyniad a fwynhawyd gan gynulleidfa a oedd yn fwy nag arfer. Daeth y cyfarfod i ben gyda’r amser arferol i gymdeithasu gyda phaned o de a bisgedi.
Cynhelir ein cyfarfod nesaf ar Ebrill 8fed, cyfarfod busnes a fydd yn dechrau gyda ffilm fer o ddiddordeb lleol.

Ebrill 2024
Cynhaliodd y Gymdeithas eu cyfarfod misol yn Yr Hen Ysgol ar Ebrill 8fed. Fel ym mhob cyfarfod busnes, dechreuodd gyda ffilm fer, casgliad o luniau a dynnwyd o orymdaith Dydd Sadwrn Barlys 2007. Cafwyd cyfarfod busnes i ddilyn dan gadeiryddiaeth Glynwen Bishop. Un o'r eitemau ar yr agenda oedd ein diwrnod allan blynyddol ym mis Mai. Eleni, penderfynwyd ymweld ag Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili ac Eglwys Sant Pedr Caerfyrddin gyda taith dywys o amgylch y ddau. Byddwn yn a cael pryd o fwyd gyda’n gilydd rywle ar ddiwedd y dydd. Brenda fydd yn gwneud y trefniadau fel yn y blynyddoedd a fi. Mae croeso i westeion ymuno â ni os ydynt yn dymuno. Y modd cludiant, byddwn yn rhannu ceir fel y gwnaethom y llynedd.
Eitem arall ar yr agenda oedd yr hyn a wnaeth Glynwen ddarganfod yn ystod ymchwil, mae angen cofio person arall ar Gofeb Rhyfel y Pentref. Bu farw Capten Benjamin Roderick Evans pan suddwyd ei long MV King Lud gan dorpido Japaneaidd yn 1942. Roedd ei fam yn byw yn y Plough, Eglwyswrw cyn iddi briodi William Evans yn eglwys y pentref. Buont wedyn yn byw yn Fforest, Cilgerran, gan symud yn ddiweddarach i Bantyderi tua 1913. Gweddw Capten Evans oedd yr adnabyddus Dr Morfydd Evans a wasanaethodd ardal Boncath am gyfnod hir.
Malcolm Gray o Dyddewi fydd yn ychwanegu'r arysgrif yn ystod yr haf.
Nodwyd bod aelodaeth ein tudalen Facebook yn dal i gynyddu o fis i fis a bod llawer o wybodaeth yn cael ei gasglu o'r sylwadau a wnaed gan yr aelodau. Dywedwyd wrth yr aelodau bod angen cadeirydd ac ysgrifennydd newydd ar gyfer 2025, penderfynwyd trafod hyn yn gynnar yn y flwyddyn yn hytrach na gadael y penderfyniad i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd. Daeth y cyfarfod i ben gyda phaned o de a rhywfaint o amser i gymdeithasu.
Fydd y cyfarfod nesaf ar Fai 13eg am 7.30yh yn Yr Hen Ysgol.
Y siaradwr gwadd fydd y Parch. Richard Davies a fydd yn sôn am yr Ymosodiad y Ffrancwyr ar Sir Benfro ym 1797. (French Invasion).

Mai 2024

Nos Lun Mai 13eg bu cyfarfod y Gymdeithas Dreftadaeth yn Yr Hen Ysgol, anerchwyd yr aelodau a’r gwesteion gan ein cadeirydd Glynwen Bishop gan gydymdeimlo â’n Llywydd Beatrice Davies ar farwolaeth ei gwr Hugh. Gydag ychydig eiriau o groeso, cyflwynodd y siaradwr am y noson, cyn cymryd ei sedd i fwynhau darlith gan y Parchedig Richard Davies, sef “Glaniad y Ffrancod”.
Roedd pawb yn gwrando’n astud wrth i’r siaradwr ddisgrifio’r hanes gyda chymaint o gefndir i ddigwyddiadau 1797 a chymaint o fanylion. Disgrifiodd sut rywsut y llwyddodd yr Arglwydd Cawdor i berswadio Cyrnol William Tate i ildio er bod y Ffrancwyr yn fwy na'r amddiffynwyr o ddau i un. Ond erbyn hynny roedd y cartrefi o gwmpas Carregwastad, lle roeddent wedi dod i'r lan, wedi'u hysbeilio. Yn anffodus i'r Cyrnol Tate bu llongddrylliad ychydig ynghynt, ac roedd gan pob cartref swm sylweddol o win mewn casgenni a oedd wedi golchi i'r lan. O ganlyniad, roedd llawer o'i ddynion yn feddw neu'n sâl. Disgrifiodd Abergwaun y cyfnod hwnnw, doedd dim man agored llydan fel sydd heddiw yn sgwâr Abergwaun, roedd rhes o dai yn y canol, gyda ffordd gul pob ochr. Yn Ty Hugh Meyler wnaeth Arglwydd Cawdor sefydlu ei bencadlys, enwyd y ty yn ‘The Royal Oak’ ar ôl y llong-garchar a bu yn dal y carcharorion Ffrengig yn Portsmouth. Clywsom lawer o straeon eraill am yr hyn yr oedd unigolion wedi'i brofi, ac am un yn ailadrodd am yr hyn a welodd pan y ferch ifanc am dâl am bron i gan mlynedd. Mwynhawyd y noson yn fawr. Mike wnaeth y diolchiadau.
Edrychwn ymlaen at ei gyfarfod eto pan fydd y Gymdeithas Dreftadaeth yn ymweld â Casnewydd Bach ym mis Gorffennaf i glywed am hanes y pentref ac am Barti Ddu y môr-leidr enwog.
Ar ôl paned a’r sgwrsio arferol, bu cyfarfod byr i drafod trefniadau ein diwrnod allan. ‘Trip’
Ar ddydd Sadwrn Mai 18fed bu criw ohonom yn ymweld ag Amgueddfa Caerfyrddin sydd wedi ei leoli yn hen Balas yr Esgob yn Abergwili. Gyda pharcio hawdd, gerddi a thiroedd helaeth a chaffi, roedd yn amlwg yn boblogaidd gan lawer. Cawsom daith dywys gan glywed am hanes y Palas, sut y daeth yn gartref i Esgob Tyddewi ac am y tân a ddinistriodd llawer ohono ym 1903. Mae'r amgueddfa'n gartref i arteffactau amrywiol, yn gysylltiedig bennaf â'r ardal leol. Gyda byrddau wedi eu cadw ar ein cyfer yn y caffi, diolch i Brenda; mwynhawyd pryd o fwyd cyn teithio’r daeth fyr i Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin. Yno i gwrdd â ni roedd warden yr Eglwys Mr Nigel Evans ein tywysydd. Siaradodd am hanes maith yr eglwys; adroddodd lawer o hanesion yn ymwneud â bywyd yr eglwys mewn modd brwdfrydig a difyr. Cyn y daith adre, mwynhawyd pryd o fwyd gyda’n gilydd yn Nhafarn Tanerdy lle diolchwyd i Brenda am drefnu diwrnod llwyddiannus arall.
Bydd cyfarfod mis Mehefin ar nos Lun y 10fed. Cyfarfod busnes yn dechrau gyda ffilm neu gyflwyniad byr.

Mehefin 2024
Cyfarfu Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw yn Yr Hen Ysgol am 7.30 nos Lun y 10fed o Fehefin. Roedd hwn yn gyfarfod busnes a ddechreuodd gyda ffilm fer fel sy'n arferol yn ddiweddar.
Roedd y ffilm yn goffau'r rhai a gymerodd ran yn D Day a brwydr Normandi.
Yna cafwyd gyfnod o dawelwch er cof am y rhai a fu farw.
Dilynwyd hyn gan gyfarfod busnes, gyda Glynwen Bishop yn y gadair. Adolygwyd y ‘Trip’, ein diwrnod allan blynyddol, a chyflwynwyd blodau i Brenda ein Trysorydd fel arwydd o ddiolch am yr holl waith o drefnu digwyddiad llwyddiannus arall.
Atgoffwyd yr aelodau bod angen swyddogion newydd ar gyfer 2025 er mwyn i'r Gymdeithas Dreftadaeth allu parhau i'r dyfodol.
Cafwyd disgrifiad byr gan Glynwen o’r negeseuon niferus rydym wedi’u derbyn yn ddiweddar ac o’r rhoddion o luniau ac eitemau eraill rydym wedi’u derbyn.
Y tro nesaf y byddwn yn cyfarfod fydd ar ein hymweliad â Casnewydd Bach.
Byddwn yn cyfarfod yn Eglwyswrw am 5.15yh ac yn teithio mewn ceir i Gasnewydd Bach erbyn 6.00yh i gwrdd â’r Parchedig Richard Davies a fydd yn siarad am hanes y pentref ac am Barti Ddu y môr-leidr enwog a aned yno yn 1682.
I gloi’r noson, byddwn yn cael pryd o fwyd gyda'n gilydd, lleoliad eto i'w benderfynu. Croesewir gwesteion, a dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â Brenda ar 01239 841710.


Gorffennaf 2024
Ar Orffennaf 8fed wnaethom gwrdd yn Eglwyswrw am 5.15yh. Yna teithiodd tua 40 o aelodau a ffrindiau mewn ceir i Gasnewydd Bach i gwrdd â'r Parchedig Richard Davies. Oherwydd y tywydd gwlyb, fe benderfynom mai’r peth gorau fyddai gwrando ar y Parchedig Davies yn yr Eglwys yn hytrach na chael y daith arfaethedig o amgylch y pentref. Gyda phawb yn eistedd, cawsom fwynhau darlith ar hanes y Pentref, yr Eglwys a Barti Ddu y môr-leidr enwog a aned yno yn 1682. Cafodd y pentref ei enw pan adeiladodd Adam de la Rupe gastell newydd lle mae lawnt y pentref ‘village green’ nawr, roedd yna hen gastell yn yr ardal. Ond yn yr 20fed ganrif y cafodd safle y castell ei wneud yn lawnt y pentref ‘village green’ er yn ystod yr ail ryfel byd, cloddiwyd ffosydd ar ei draws i ffurfio lloches bomiau oherwydd ei agosrwydd at Depo Arfau’r Llynges Frenhinol, Trecwn,
Cafwyd hanes Barti Ddu y môr-leidr enwog, aeth i'r môr yn fachgen ifanc ac yn fuan ddaeth yn forwr galluog iawn. Cipiwyd y llong yr oedd arni gan Hywel (neu Howell) Davies, môr-leidr arall o Sir Benfro, daeth Barti Ddu yn fôr-leidr o dan ei arweiniad. Ei enw iawn oedd John Roberts a elwid hefyd yn Bartholomew Roberts. Bu farw Hywel Davies rywbryd wedyn, a phleidleisiwyd Barti Ddu yn Gapten, roedd môr-ladron yn ymddangos yn ddemocrataidd iawn. Yn ystod ei amser fel môr-leidr, daliodd tua phedwar cant o longau, ond gan ei fod yn ddyn crefyddol, ni ymosododd erioed ar unrhyw long ar y Sul. Bu farw mewn brwydr yn 1722, does neb yn gwybod beth ddigwyddodd i'r cyfoeth enfawr a oedd ei eiddo.
Cawsom hanes Eglwys Sant Pedr, o’r blynyddoedd cynnar hyd presennol. Yn y blynyddoedd cynnar cysegrwyd yr Eglwys i Dewi Sant, mae wedi’i hatgyweirio a’i hadfer sawl gwaith yn ei hanes hir, a chafodd yr adeilad presennol ei adfer yn y 1870au. Yn y 18fed ganrif, er bod angen atgyweirio’r adeilad yn gyson, fe’i defnyddiwyd fel Ysgol Gylchynol a phregethwyd yno hefyd gan John Wesley a William Williams, Pantycelyn. Yn y 1990au gosodwyd pum ffenestr liw newydd yn darlunio bywyd Crist. Y ffenestr gyntaf ‘Ffenestr y Geni’ yna ‘Ffenestr y Bedyddio’ ac yna ‘Ffenestr y Croeshoeliad’ ‘Ffenestr yr Atgyfodiad’ a ‘Ffenestr yr Esgyniad’. Ar ôl y ddarlith treuliwyd peth amser yn edmygu prydferthwch yr Eglwys, yna aethom i Dafarn Sinc, Rhos y Bwlch am bryd o fwyd. Diolchodd ein cadeirydd Glynwen Bishop yn yr Eglwys, i’r Parch Richard Davies am yr hanes diddorol a hefyd am y croeso cynnes i’w Eglwys. Wedi’r pryd o fwyd yn Nhafarn Sinc, diolchodd Glynwen i bawb am ei presenoldeb ac i staff Tafarn Sinc am eu gwasanaeth siriol, yn olaf diolchodd i Brenda ein Trysorydd am gydlynu digwyddiad lwyddiannus arall. Bydd ein cyfarfod nesaf ar Fedi 9fed yn Yr Hen Ysgol.
Y siaradwr gwadd fydd Martin Lewis, a theitl ei gyflwyniad fydd ‘Crumbs from the Table’, eitemau o’i lyfr diweddaraf.

Medi 2024.
Cynhaliodd Cymdeithas Dreftadaeth Eglwyswrw eu cyfarfod misol ar Fedi 9fed yn Yr Hen Ysgol.
Y siaradwr gwadd oedd Martin Lewis, a fu’n ein diddanu gyda straeon o’i lyfr ‘Crumbs from the Table’.
Mae Martin Lewis wedi cyfrannu erthygl i bron bob rhifyn o’r papur newydd Cymraeg ‘Y Llien Gwyn’ ers mwy na phum mlynedd ar hugain, ac mae’r llyfr ‘Crumbs from the Table’ yn gyfieithiad o’r trigain erthygl gyntaf.
Roedd y straeon a adroddodd yn hyfrydwch, megis bywyd John George Isaac, er ei fod yn anabl, adeiladodd gart a oedd yn addas ar gyfer ei anabledd, tynnwyd y cart gan asyn. Galluogodd hyn iddo wneud bywoliaeth fel trapiwr gwningod. Pan ddaeth y clefyd ‘mycsamatosis’ i’r fro, ddaeth trapio cwningod i ben a felli ei ffordd o ennill ei fywoliaeth. Dechreuodd ddelio ‘antiques’ o’i gartref ger Trefdraeth ac yn fuan roedd yn rhedeg busnes llewyrchus, yn prynu’n lleol ac yn gwerthu i bobl ledled y wlad yn ogystal â thramor.
Roedd stori arall yn ymwneud â gwr ifanc o Drefdraeth o’r enw Howard Roberts a ddaeth yn adnabyddus ar ôl prynu beic modur am ei barodrwydd i gludo pobl i orsafoedd rheilffordd neu ble bynnag yr oedd angen iddynt fynd, cynyddodd y galw am ei wasanaeth a ddechreuodd godi tâl cymedrol, yna gosododd ‘seidcar’ i'w feic modur, wedyn roedd yn medru cario tri person. Yn ddiweddarach fe brynodd fws wrth adeiladwr coetsis o Aberteifi, a dyna gychwyn busnes ‘Pioneer Motor Services’ a bu yn cyflogi llawer dros y blynyddoedd, gan redeg gwasanaeth bws rheolaidd rhwng Abergwaun ac Aberteifi am flynyddoedd lawer. Roedd yna lawer o straeon gwych eraill a wnaeth diddanu y cynulleidfa fawr a oedd yn bresennol. Wedyn, gyda te neu goffi yn cael ei weini, bu Martin yn brysur yn llofnodi llawer o'i lyfrau i brynwyr niferus .
Bydd ein cyfarfod nesaf ar Hydref 14eg yn Yr Hen Ysgol. Bydd ffilm fer o ddiddordeb lleol yn cael ei dangos ac yna cyfarfod busnes.


Swyddogion ar gyfer 2024.

Cadeirydd - Glynwen Bishop.

Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas.

Ysgrifennydd - Will Thomas.

Trysorydd - Brenda James.

Archwilydd - Adrian Charlton.

Bydd ein cyfarfodydd busnes yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb lleol.

Diolch aelodau am eich ffyddlondeb ac edrychwn ymlaen i’ch cwmni eto yn ein cyfarfod nesaf.
Gartref
 
Home