Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Cyfarfodydd a Gweithgareddau 2022.
Home

Nodiadau o'r Cofnodion

Cyfarfod mis Ionawr wedi'i ganslo fel rhagofal covid.

Cyfarfod Chwefror 14eg 2022
Cynhaliwyd ein cyfarfod ar Chwefror 14eg. Ein siaradwraig gwadd oedd Heather Tomos, teitl ei chyflwyniad oedd ‘Tri o Gyn-Aelodau Seneddol Sir Benfro’, gyda chymorth lluniau a gwybodaeth ar sgrin soniodd am fywydau personol a phroffesiynol Walter Roch; Charles Price a Desmond Donnelly, bu rhyngweithio da rhwng yr aelodau wrth i rai ddwyn i gof etholiadau’r gorffennol ac aelodau seneddol a oedd yn cynrychioli Sir Benfro.
Yn dilyn, bu cyfarfod busnes, trefnwyd fydd ein Trysorydd Brenda James unwaith eto yn trefnu y daith undydd eleni, taith dywys o amgylch Abaty Ystrad Fflur ac Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi gyda phryd o fwyd i gloi’r diwrnod ar ein ffordd adref. Oherwydd covid cafodd y daith hon, a oedd wedi'i chynllunio ar gyfer 2020 ei chanslo.
Ymhlith eitemau eraill, buom yn trafod cael tudalen ‘facebook’. Cynigiodd Heather sefydlu’r dudalen, i helpu i hyrwyddo hanes lleol a gwaith y Gymdeithas, a hefyd i fod yn fwy hygyrch i’r cyhoedd. Derbyniwyd y cynnig hwn gyda diolch. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y dudalen ‘Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw Heritage Group’ bellach ar gael ac wedi denu llawer o ddiddordeb. Cyfarfod busnes fydd mis nesaf. Mae croeso bob amser i aelodau newydd.

Cyfarfod Mawrth 14eg, 2022
Cynhaliwyd ein cyfarfod Mawrth 14eg, er fod y presenoldeb yn isel, cawsom gyfarfod hwylus a diddorol iawn dan lywyddiaeth Enid Cole. Cafwyd trafodaethau bywiog, addysgiadol a difyr, er yn gwyro ychydig oddi wrth yr agenda ar adegau.
Trafodwyd yr ohebiaeth a dderbyniwyd a gwnaed cyhoeddiadau.
Cytunwyd y byddem yn cefnogi’r Bore Coffi i godi arian i ffoaduriaid yr Wcráin ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2 yn Yr Hen Ysgol.
Roedd deunydd o'n harchif ar gael i aelodau ei fenthyg.
Penderfynwyd trefniadau ar gyfer ein diwrnod allan blynyddol sydd fel a ganlyn:- Ar ddydd Sadwrn, Mai 7fed byddwn yn gadael Eglwyswrw am 9.30yb i gyrraedd Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi erbyn 11.30, i gyfarfod ein tywysydd - Warden yr Eglwys Llinos, yna i Dregaron am egwyl a lluniaeth, yna ymlaen i Abaty Ystrad Fflur, erbyn 2.30pm i gwrdd â'n tywysydd - Charles Arch. Byddwn yn aros am bryd o fwyd yn Glanyrafon Arms, Talgarreg ar ein ffordd adref.
Gwahoddir aelodau a gwesteion i dalu blaendal o £10 erbyn Ebrill 11eg - ein cyfarfod nesaf yn Yr Hen Ysgol. Neu cysylltwch yn uniongyrchol â'n Trysorydd a threfnydd y trip,
Brenda James ar 01239 841710
Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Ebrill yw Eirlys Thomas a fydd yn sôn am ei theithiau o’r Ariannin i’r Antarctica.
Ymysg y materion eraill a drafodwyd oedd ein tudalen Facebook a sefydlwyd gan Heather Tomos a hysbysodd fod aelodaeth hyd yma yn 176 ac mae wedi denu llawer o ddiddordeb.
Drwy gydol y flwyddyn mae gennym siaradwyr diddorol, mae croeso bob amser i westeion am dâl mynediad o £3 neu ddod yn aelod llawn am ffi flynyddol o £10. Te / coffi a bisgedi yn gynwysedig.

Cyfarfod Ebrill 11, 2022
Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Ebrill ar nos Lun yr 11fed. Roedd 17 o aelodau a gwesteion yn bresennol.
Croesawodd ein Cadeirydd Enid Cole ein siaradwraig gwadd Eirlys Thomas. Teitl cyflwyniad Eirlys oedd ‘Argentina to Antarctica’ ‘Ariannin i Antarctica' taith a wnaeth rai blynyddoedd yn ôl. Soniodd am hanes a thraddodiadau’r lleoedd buodd yn ymweld gan, rhoi ffeithiau a ffigurau o ddiddordeb. Defnyddiwyd y taflunydd a'r offer newydd sydd wedi eu gosod am y tro cyntaf ac roedd y llu o luniau'n ymddangos yn dda ar y sgrin fawr. Cychwynnwyd y cyflwyniad gan ddechrau yn Buenos Aires ac yna ymlaen i Ushuaia, dinas fwyaf deheuol y byd, ar long wedyn i Ynysoedd y Falkland a De Georgia ac ymweld â bedd Shackleton a’r gorsafoedd hela morfilod segur sydd wedi eu gadael ac yn rhydu. Ac yna i Antarctica gan ddangos y cyfoeth o fywyd gwyllt oedd i’w gweld ar y ffordd.
Delyth wnaeth y diolchiadau ar ran yr aelodau, penderfynwyd yn ein cyfarfod mis diwethaf peidio â chynnal cyfarfodydd busnes pan fydd gennym siaradwr gwadd, felly roedd digon o amser i fwynhau paned a chymdeithasu. Ein digwyddiad nesaf yw ein diwrnod allan blynyddol, eleni byddwn yn ymweld ag Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi ac Abaty Ystrad Fflur. Byddwn yn cynnal cyfarfod busnes nos Lun Mai 7fed yn Yr Hen Ysgol.

Diwrnod Allan. Trip 2022 - Llanddewi Brefi ac Ystrad Fflur.
Cafodd ein aelodau a ffrindiau ddiwrnod bendigedig ar ddydd Sadwrn Mai 7fed gan Ymweld ag eglwys hardd ac adnabyddus, Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi. Mae’r Eglwys gyda’i chwedlau niferus wedi bod yn fan addoli yn Llanddewi Brefi ers y 7fed ganrif. Roedd warden yr eglwys Llinos yno i'n tywys o gwmpas a thynnu sylw at bwyntiau o ddiddordeb. Un bedd diddorol a ddaliodd sylw pawb oedd un Ajax Ajax, roedd arysgrif ar y garreg yn Gymraeg, felly efallai ei fod yn siarad Cymraeg. Ar ôl aros yn Tregaron am luniaeth aethom ymlaen i Ystrad Fflur i gwrdd â’n tywysydd am y prynhawn Charles Arch, a aned ym Mynachlog Fawr, ty fferm drws nesaf i’r Abaty. Cychwynnodd y gylchdaith yn yr amgueddfa sydd newydd agor ac yn cynnwys arddangosion sy’n adrodd hanes bywyd beunyddiol y teulu Arch a fu’n byw ar y fferm o’r 1860au i’r 1990au. Oddi yno symudon ni i’r Abaty gan fynd heibio yr hen ysgol roedd Charles yn ei fynychu. Ar ôl taith dywys o amgylch yr Abaty, cawsom ein tywys o amgylch yr Eglwys. Yn gyfartal â'r ffeithiau am yr adeiladau hynafol a'r adfeilion hyn roedd y straeon niferus yn disgrifio'r caledi a ddioddefodd pobl yr ardal dros y blynyddoedd. Cyflogaeth pobl yn y pyllau plwm a’u hamodau byw, bu farw llawer iawn yn ifanc, Soniodd am eira a rhew 1947 a ddileodd ffermio defaid y rhai a oedd yn pori'r mynyddoedd o gwmpas. Bu’r eira mor uchel a’r ffermdy, sy’n adeilad sylweddol, tywydd a wnaeth barlysu’r ardal am 12 wythnos, roedd amhosib claddi y meirw gan fod y tir yn rhy galed i’r cloddwyr beddau. Erbyn i’r tywydd wella roedd rhyw ddeg arch yn yr eglwys yn disgwyl eu claddu, Ar ein ffordd adref mwynhawyd bryd o fwyd hyfryd yn Glanyrafon Arms, Talgarreg.
Rydym yn ddiolchgar i’n Trysorydd, Brenda James am drefnu popeth ac i bawb yn y grwp am ddiwrnod braf a diddorol.
Bu Cyfarfod Busnes Nos Lun Mai 9fed. Nid oedd ond naw aelod yn bresennol. Wedi geiriau o gydymdeimlad ag Enid ar golli ei brawd Howard dechreuodd y cyfarfod.
Ymhlith yr eitemau ar yr agenda a drafodwyd roedd rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Er yn gynnar yn y flwyddyn gwahoddwyd yr aelodau i gynnig syniadau.

Cyfarfod Mehefin 13,2022.
Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mehefin oedd Dyfrig Harries a ddisgrifiodd ei deithiau gyda ei fab Ieuan yn Affrica. Parhaodd yr antur o fis Mawrth i fis Medi, a daeth i fodolaeth trwy gyfuniad o ffeithiau. Roedd Ieuan yn gweithio yn Affrica fel ‘Bush Pilot’ ac roedd yn dod i ddiwedd ei gytundeb yno. Penderfynodd Dyfrig ymweld â’i fab er mwyn iddynt allu teithio adref gyda’i gilydd, ond nid trwy’r dull confensiynol o deithio, fe benderfynon nhw deithio ar feiciau modur, roedd Dyfrig eisoes yn berchen ar feic modur pwerus Yamaha, ac fe’i cludodd allan i Cape Town, roedd gan Ieuan feic modur ar gyfer teithio yn ôl ac ymlaen o'r gwaith, ond nid oedd y beic yn addas ar gyfer y daith a gynlluniwyd. Felly, prynodd feic yr unfath â’i dad, roedd wedi bod yn gwylio ei bris yn cael ei ostwng mewn garej beics modur gan nad oedd llawer o alw am feiciau mawr yn yr ardal honno. Disgrifiodd Dyfrig ddigwyddiadau yn arwain at ddechrau eu taith adref.
Gan gysylltu â'i fab a theithio Namibia a Botswana cyn teithio i'r de eto i Cape Town a pharatoi ar gyfer y daith hir adref, roedd y ffordd a ddewiswyd yn mynd â nhw i'r gogledd ar ochr ddwyreiniol Affrica, disgrifiodd y ffordd droellog yn arwain at ffin Lesotho, a rhannau eraill o'r daith lle byddai'r wyneb tarmac yn dod i ben yn sydyn. Soniodd am eu gweithgareddau ar hyd y ffordd, megis abseilio ac ymweld â lleoedd fel y cofebau i’r rhai a fu farw yn Rorke’ Drift ac Isandlwana a’r gofeb i ryfelwyr y Zulu. Pan gyrhaeddon nhw ffin ogleddol Kenya, fe wnaethon ddarganfod y byddai'n rhaid iddynt dalu math o dreth fewnforio, a oedd yn swm sylweddol i caniatáu iddynt fynd i mewn i Ethiopia, y gellid ei adennill wrth adael y wlad ond dim ond yn man mynediad. Fe benderfynon ddadosod y beiciau modur a'u pacio ar gyfer eu cludo gan ‘Air Freight’ i Istanbul. Oddi yno buont yn teithio ychydig cyn troi am adre ar draws Ewrop ac i Aberteifi. Cododd eu hantur swm sylweddol o arian i Elusen ‘Ysbyty Plant Arch Noa’.

Cyfarfod Gorffennaf 11, 2022.
Braf oedd bod mewn cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth gyda nifer dda o aelodau ar nos Lun Gorffennaf 11eg.
Mae’r nifer sydd yn dod i’n cyfarfodydd yn cynyddu'n araf ers i'r cyfyngiadau covid gael eu codi.
Ein siaradwr gwadd oedd y Parch Roger Antell o Dinas a theitl ei gyflwyniad oedd
‘Gwasanaethau Post Cynnar yn Sir Benfro’
Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â datblygiad y gwasanaethau post yn Sir Benfro, o’i gychwyn yn 1600, hyd at 1921.
Ffurfiwyd y gwasanaeth post cyntaf yn gynnar yn y 1600au a’i brif bwrpas oedd cyfathrebu â De Iwerddon, roedd negeseuon yn cael eu hanfon o Lundain ar gefn ceffyl i Dale ac yna mewn cwch i Iwerddon. Bryd hynny roedd y gwasanaeth post at ddefnydd y llywodraeth yn unig.
Yn ddiweddarach yn yr 17eg ganrif ehangodd y gwasanaeth post i gludo llythyron unigolion preifat er bod y gost yn golygu mai dim ond i'r cyfoethog yr oedd hyn yn fforddiadwy. Anfonwyd pob llythyr i Lundain lle cawsant eu stampio, ac yna eu hanfon ymlaen i'w cyrchfan lle byddai'r derbynnydd yn talu'r gost.
Yn ei gyflwyniad, dangosodd Roger sampl o’r cyfeiriadau a oedd ar rhai llythyrau yr adeg hynny, roedd rhain yn ddisgrifiadol yn hytrach nag yn gyfeiriad pendant. Roedd ganddo hefyd arddangosfa o gardiau gwybodaeth yn dangos rhai arddangosion prin ar ffurf llythyron wedi'u stampio ac ati.
Wrth i’r gwasanaeth post ddod yn fwy trefnus, gadawyd llythyron mewn ‘tai derbyn’ yn aml mewn tafarndai neu gaffis ac oddi yno fe eu hanfonwyd ymlaen i Swyddfeydd Post a oedd wedi eu lleoli yn trefi mwyaf yr ardal.
Cyflwynwyd cerbydau post (coets) ar ddiwedd y
18fed ganrif a roedd rhain yn cludo teithwyr yn ogystal â phost. Yn ogystal â gyrrwr y goets roedd yna warchodwr hefyd.
Yn y 1840au gwellwyd y gwasanaeth post ymhellach trwy gyflwyno’r ‘Penny Post’. Gellid anfon llythyrau i unrhyw le yn y wlad am gost stamp ceiniog. Roedd gan Penny Post, Aberteifi is-swyddfeydd post yn yr ardal gyfagos, a byddent yn stampio'r llythyron cyn eu hanfon ymlaen i Aberteifi. Byddai swyddfa bost Eglwyswrw yr agosaf o’r swyddfeydd post yn stampio'r llythyron gyda (No1).
Roedd gan Roger wybodaeth hefyd am bobl leol a oedd yn ymwneud â'r gwasanaeth post.

Cafodd y cyflwyniad dderbyniad da, a chafodd yr aelodau gyfle i gwestiyni Roger cyn treulio peth amser yn cymdeithasu gyda phaned a astudio’r arddangosion.

Cyfarfod Medi 12,2022.
Cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas Treftadaeth mis Medi ar ddydd Llun y 12fed. Yn gyntaf, fe wnaethom sefyll mewn distawrwydd am ddwy funud er cof am y Frenhines Elizabeth II, yna croesawodd ein Cadeirydd Enid Cole ein siaradwr gwadd sef Peter Claughton. Teitl ei gyflwyniad oedd ‘Lead and Slate Resources in North Pembrokeshire’ Adnoddau Plwm a Llechi yng Ngogledd Sir Benfro.
Gyda chymorth lluniau a mapiau wedi’u taflunio, disgrifiodd Peter y mwyngloddiau a chwareli ein hardal a’r ffordd yr oeddent yn cael eu gweithio.
Amlinellodd ddaeareg Sir Benfro yn ei chyfanrwydd, o lo yn y de i blwm a llechi yn y gogledd. Disgrifiodd y mwyngloddiau plwm yn Llanfyrnach a oedd ar eu hanterth yn 70au ac 80au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth cynhyrchu'r mwynglawdd i ben ym 1890 pan gollwyd y wythïen oherwydd diffygiad ac ni allent barhau, ond parhaodd diddordeb yn y mwynglawdd plwm am flynyddoedd lawer wedyn, ond ni chafodd ei ailagor.
Disgrifiodd Peter y chwarel lechi yn Rosebush a hefyd Glog; Cilgerran a mwyngloddiau a chwareli llai eraill. Disgrifiodd yr amodau gwaith a'r dull o symud y deunydd o'r mwyngloddiau a'r chwareli. Cafodd ei gyflwyniad dderbyniad da gan yr aelodau a deimlai eu bod wedi dysgu llawer am y diwydiant mwyngloddio a chwareli a oedd yn cyflogi cannoedd o bobl yn eu dydd, er bod y lleoedd hyn yn adnabyddus i’r mwyafrif, roedd yn ddiddorol iawn clywed hanes y gweithleoedd pwysig hyn. Wedyn fe wnaethom fwynhau cymdeithasu gyda phaned a bisgïen.

Cyfarfod Hydref 10,2022
Cynhaliwyd cyfarfod busnes y Gymdeithas Treftadaeth ar nos Lun, Hydref 10fed. Gan na allai ein Cadeirydd Enid Cole fod gyda ni, cadeiriwyd y cyfarfod gan yr Is-Gadeirydd Diana Vaughan Thomas.
Cyfarchodd Diana yr aelodau a gofynnodd i bawb sefyll am funud o dawelwch er cof am aelod ffyddlon - Mrs Audrey Jones a fu farw ar Medi 27.
Roedd gennym agenda lawn i’w drafod, roedd llawer o ohebiaeth a chyhoeddiadau,
Cyhoeddwyd bod Glynwen a Mike Bishop wedi codi £50 gyda bwrdd llyfrau ail-law ar ran y Gymdeithas yn y Sioe flynyddol CADAMM a gynhaliwyd yng Ngharnhuan yn yr haf. Rhoddwyd yr arian, £50 i ‘Banc Bwyd Aberteifi’.
Buom yn trafod ein rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd gennym bum siaradwr yn ystod y flwyddyn, bob yn ail fis am ran gyntaf y flwyddyn, gyda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Tachwedd a Dathlu’r Nadolig ym mis Rhagfyr. Ac ar gyfer atyniad ychwanegol bydd ein cyfarfodydd busnes o fis Ionawr 2023 yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb hanesyddol neu ryw nodwedd arall, penderfynir beth fydd yr atyniad o fis i fis.
Cynhelir Gwasanaeth Sul y Cofio’r Pentref yn Eglwys Sant Cristiolus, Eglwyswrw ar ddydd Sul, 13eg Tachwedd, dewiswyd Glynwen i osod torch ar ran y Gymdeithas.
Atgoffwyd yr aelodau fod gennym lyfrau heb eu gwerthu, sydd bellach yn cael eu gwerthu am bris gostyngol.
Mae gan ein tudalen Facebook 310 o aelodau ac mae wedi cael derbyniad da, rydym wedi dangos llawer o luniau o’n casgliad ar y dudalen hon drwy gydol y flwyddyn. Mae sganiau o lyfr lloffion Sefydliad y Merched Crosswell (Crosswell W.I. Scrapbook 1947) yn tynnu llawer o sylw. Roedd Glynwen wedi darganfod mai gwaith Mrs Frances Margaretta Morris, Bannondale yw’r llyfr, gyda rhywfaint o gymorth gan aelodau eraill o Sefydliad y Merched Crosswell siwr o fod. Cynhyrchwyd y llyfr rhywbryd yn y 1950au.
Gyda materion eraill wedi'u penderfynu fe wnaethom fwynhau ein paned arferol a sgwrs.

Cyfarfod Tachwedd 14,2022.
Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2022 yn Yr Hen Ysgol ar nos Lun, Tachwedd 14eg.
Ar ôl croesawu’r aelodau, gofynnodd Enid i bawb sefyll am funud o dawelwch i gofio am Graham ac Audrey, aelodau sydd wedi marw’n ddiweddar, ac fel arwydd o barch i’n ffrindiau sydd wedi colli aelodau o’r teulu ers ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf.
Yn ystod y cyfarfod bu Enid yn sôn am ein gweithgareddau dros y flwyddyn, am siaradwyr gwadd a ddaeth atom ac am ein diwrnod allan blynyddol ym mis Mai, taith dywys o amgylch Eglwys Llanddewi Brefi ac Abaty Ystrad Fflur yr Eglwys a’r Amgueddfa.
Gwahoddwyd yr aelodau i gynnig swyddogion newydd, roedd Enid yn dymuno rhoi'r gorau i fod yn Gadeirydd, swydd y mae hi wedi bod ynddi ers sawl blwyddyn. Pleidleisiwyd Glynwen Bishop i fod yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Gofynnwyd yn unigol i swyddogion eraill i barhau yn eu swydd, a chytunwyd i wneud hynny. Swyddogion ar gyfer 2023 fel a ganlyn. Cadeirydd – Glynwen Bishop. Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas. Ysgrifennydd - Will Thomas. Trysorydd - Brenda James. Archwilydd - Adrian Charlton.
Bob blwyddyn rydym yn derbyn nifer o ymholiadau gan bobl sydd wedi dod ar draws ein gwefan neu tudalen ‘Facebook’. Os bydd angen ymchwil, bydd Glynwen yn parhau i roi sylw i'r ymholiadau hyn fel y gwnaeth yn y gorffennol.
Cytunodd pawb i'r tâl aelodaeth blynyddol i barhau i fod yn £10 am y flwyddyn nesaf ac na fydd unrhyw newid yn y tâl o £3 i wrando ar siaradwyr gwadd i rhai nad ydynt yn aelodau.
Bu cyfarfod busnes yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, adroddwyd bod gwerthiant llyfrau yn cynyddu gan fod Nadolig yn agosáu.
Adroddwyd bod cynulleidfa dda wedi dod ynghyd i wasanaeth Sul y Cofio yn eglwys Sant Cristiolus, lle gosodwyd 18 o dorchau neu groesau gan sefydliadau neu unigolion. Gosododd Glynwen dorch ar ran y Gymdeithas.
Penderfynwyd cynnal digwyddiad yn Yr Hen Ysgol ar Ragfyr 12, (7.30pm) i ddathlu’r Nadolig. Croesawyr aelodau, a'u gwesteion i ddod â bwyd i'w rannu ac os dymunir, eu diodydd eu hunain. Darperir te a choffi. Ar ôl y bwyta fyddwn yn canu carolau gyda Brenda wrth y ‘keyboard’.

Rhagfyr 2022.
Oherwydd y tywydd cafodd ein digwyddiad i ddathlu’r Nadolig yn Yr Hen Ysgol ar gyfer dydd Llun, Rhagfyr 12, ei ganslo. Gobeithiwn drefnu digwyddiad tebyg yn gynnar yn y flwyddyn newydd, lle gwahoddir aelodau, a gwesteion i ddod â bwyd a diod i’w rhannu.

Swyddogion ar gyfer 2023 fel a ganlyn

Cadeirydd – Glynwen Bishop. Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas. Ysgrifennydd - Will Thomas.

Trysorydd - Brenda James. Archwilydd - Adrian Charlton.

Diolchwn aelodau am eu ffyddlondeb yn y gorffennol gan edrych ymlaen i gael cyfle i gydweithio a chymdeithasu eto.

Gartref
 
Home