Nodiadau o'r
Cofnodion
Ionawr.
Yng nghyfarfod mis Ionawr y Gymdeithas Dreftadaeth, croesawyd y siaradwr
gwadd Richard Ireland, cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a
ddisgrifiodd defnydd y 'Ceffyl Pren', math lleol o gosb a ddefnyddir
yng nghefn gwlad Cymru, roedd yn debyg i ddigwyddiadau tebyg mewn rhannau
eraill o'r wlad o dan enwau gwahanol, ffordd o gywilyddio'r rhai a oedd
wedi cyflawni trosedd yng ngolwg y gymuned, e.e. godineb, curo gwragedd
ac ati. Roedd yn ddarlith ddiddorol iawn ac roedd sawl cwestiwn da gan
yr aelodau. Yna paned o de neu goffi a bisgedi, ac ychydig o amser i
sgwrsio gyda ffrindiau.
Bydd ein cyfarfod 'busnes' nesaf nos Lun, Chwefror 9fed am 7.30yh yn
Yr Hen Ysgol.
Cyn trafod 'busnes' bydd pennod tri o bump o ffilm gan y diweddar Lance
Cole yn cael ei dangos. Croeso cynnes i bawb. - - -
Diolchwn i'r aelodau am eu teyrngarwch ac edrychwn ymlaen at eich cwmni
eto yn ein cyfarfod nesaf.
Chwefror
Yng nghyfarfod busnes mis Chwefror, dechreuwyd drwy ddangos y trydydd
rhan o fideo a wnaeth Lance Cole tua 1995 o fywyd ar y fferm yn Sir
Benfro, gan gynnwys y ‘Fferm Ceffylau Gwedd’ yn Eglwyswrw.
Wedyn trafodwyd syniadau o hybu'r Gymdeithas yn Eisteddfod y Garreg
Las. Penderfynwyd trefnu fynd i Aberystwyth eleni ar ein ‘Taith
Flynyddol’ (Trip) ym mis Mai, gyda'r manylion i'w cadarnhau yn
y cyfarfod busnes nesaf. Fydd Mark Cole yn cysylltu a Llyfrgell Genedlaethol
a Archifdy Ceredigion i drefnu ein ymweliad. A hefyd trefnu ein arhosiad
am fwyd ar y ffordd adre. Trafodwyd ein hymweliad gyda'r nos ym mis
Gorffennaf, rydym yn gobeithio ymweld â'r 'Shell House’
ger Boncath ac Eglwys Capel Colman ac yna cael pryd o fwyd yn lleol.
Bydd ein cyfarfod nesaf ar nos Lun, Mawrth 9fed am 7.30yh yn yr Hen
Ysgol, bydd Anita Thomas a Max Thom yn siarad am hanes morwrol Aberporth.
Croeso cynnes i bawb..
Mawrth
Yn ein Cyfarfod nos Lun, Mawrth 9fed, croesawodd y Gymdeithas Dreftadaeth
Anita Thomas a Max Thom o Gymdeithas Hanes Aberporth i siarad am hanes
morwrol pentref Aberporth. [Aberporth, porthladd masnachol arwyddocaol
y17eg -19eg ganrif, yn adnabyddus am mewnforio calchfaen, glo a chwlwm,
roedd hefyd yn ganolfan bwysig i ddiwydiant penwaig Cymru tan ddechrau’r
20fed ganrif. Porthladd lawer llai na phorthladd Aberteifi, ond yn bwysig
iawn i’r economi leol].
‘Roedd y cyflwyniad yn agoriad llygad, dysgom lawer am bwysigrwydd
y fasnach forwrol i’r gymuned arfordirol dros y canrifoedd, mae
hyn yn agor y posibilrwydd o ymweliad ag Aberporth yn y dyfodol i weld
rhai o’r lleoedd y siaradwyd amdanynt. Roedd yn noson hyfryd,
digon o gymdeithasu wrth fwynhau’r te a’r bisgedi i orffen
y noson.
Bydd ein cyfarfod nesaf
ar Ebrill 13eg, cyfarfod busnes a fydd yn dechrau trwy ddangos y bedwerydd
rhan y fideo 'Blwyddyn ar y Fferm' a wnaed gan y diweddar Lance Cole.
Croeso cynnes i bawb.