Nodiadau o'r
Cofnodion
Ionawr 2025
Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf y flwyddyn
ar Ionawr 13. Yn Yr Hen ysgol. Croesawodd ein Hysgrifennydd
newydd a’n Cadeirydd newydd Mike Lewis ein siaradwr
am y noson. Cafwyd hanes Will James o Dinas. Yr unig Gymro ym mrwydr
Little Bighorn. Roedd ei gyflwyniad yn seiliedig ar ei lyfr “If
God Will Spare My Life”. Mae’r nofel yn sôn am ymdrechion
cyfreithiwr ifanc, Arthur Nicholas a gafodd y dasg o ddod o hyd i William
Batine James a safodd i etifeddu eiddo ei frawd John a gynhwysai fferm
sylweddol ger Strumble Head, ac yn ei dro clywn feddyliau a phrofiadau
Will, o oedran cynnar yng ngogledd Sir Benfro, y boen o golli ei dad
a rhan fwyaf o’i frodyr a’i chwiorydd, o gariad a gollodd
a’i fywyd yn ystod ac ar ôl ei ymfudo i America.
Stori Will James.
Roedd yn ddyn sengl yn byw ym Mhencnwc, ger Dinas Cross yn y 1800au,
bu farw ei dad o TB, yn fuan wedyn, bu marwolaeth rhai o'i frodyr a’i
chwiorydd. Penderfynodd adael Cymru a mynd i Ganada, mae'n debyg iddo
weithio ar fwrdd llong i dalu amy
daith a hwyliodd o Lerpwl. Mewn amser llwyddodd cael gwaith mewn siop
yn Chicago. Yn hwyrach ddaeth eto yn ddi-waith oherwydd tân mawr
Chicago. Mewn anobaith, a gan fod ganddo gariad a phrofiad o drafod
ceffylau, ymunodd â’r 7fed Marchoglu (7th Cavalry) ac yn
fuan fe’i gwnaed yn Gorporal ac yn ddiweddarach yn Sarjant. Dan
arweiniad y Cadfridog Custer collodd ei fywyd ym Mrwydr Little Bighorn
gyda'i holl gyd-filwyr.
Cafwyd cyfarfod difyr iawn a orffennodd gyda the, bisgedi a chlonc.
Chwefror.
Cawsom gyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol nos Lun, Chwefror
10fed am 7.30yh, a ddechreuodd gyda ddangos ffilm fer ‘Pembrokeshire
My County’. Yna, cynhaliodd Diana V Thomas, Cadeirydd ac Ysgrifennydd,
Mark Cole, gyfarfod busnes. Amlinellwyd ein prosiectau a digwyddiadau
am y flwyddyn. Trafodwyd yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ger Llantwd
yn 2026, trafodwyd ein taith haf flynyddol hefyd, cytunodd yr aelodau
i ymweld ag Amgueddfa Cyflymder Pentywyn a chartref Dylan Thomas yn
Nhalacharn. Crybwyllwyd y syniad o ddiwrnod agored yr Hen Ysgol, caeodd
yr hen ysgol gydag agoriad ysgol newydd yn 1972. Gobeithir trefnu Diwrnod
Agored ar gyfer disgyblion a bu yn yr ysgol (cyn 1972). Cytunwyd y byddai
Mandy, Wendy, Glynwen ac Eileen yn eistedd ar is-grwp i drafod hyn ymhellach.
Dathlu 80 mlynedd ers Diwrnod V.E. dydd Iau 8fed o Fai, cytunwyd y byddai’n
addas i gael gwasanaeth goffa yn yr Eglwys os yn bosibl. Bydd Brenda'n
cysylltu â'r Parch Wyn Maskell i ofyn iddo gynnal gwasanaeth yn
Eglwys Sant Cristiolus gyda'r nos ar y dyddiad hwnnw os yn bosibl. Penderfynwyd
gofyn i’r cyngor cymuned am gymorth gyda’r gost o redeg
y rhaglen eleni.
Gwnaethpwyd apêl am hen luniau. Byddwn yn sganio'r rhain ac yn
dychwelyd y gwreiddiol. Rydym wedi postio llun ar Facebook bob diwrnod
o'r wythnos ers mis Chwefror 2022.
Daeth y cyfarfod i ben gyda’r te a’r bisgedi arferol ac
amser i gymdeithasu.
Mawrth.
Cyfarfod mis Mawrth a gynhaliwyd yn Yr Hen Ysgol ar y 10fed. Ein siaradwr
gwadd oedd Helen Palmer Archifydd Sir Ceredigion a
soniodd am “Llythyrau Llantwd” a ysgrifennwyd
ar ddechrau’r 1800au gan deulu Williams o Benrallt Ddu, Llantwd.
“Mae Archifdy
Ceredigion yn cadw dau lyfr o lythyrau oddi wrth y brodyr Morris a Daniel
Williams, eu tad John, a’u hewythr Owen. Mae’r pedwar gohebydd
yn gwau naratif o fywyd adeg rhyfeloedd Napoleon. Mae’r iaith
yn hynod ond mae’r ystyr yn berffaith glir. Daniel sydd a mwyaf
i ddweud, mwy ymwybodol o ddigwyddiadau cyfoes a’u harwyddocâd,
arwyddocâd cenedlaethol yn eu darpariaeth o naratif cyfoes, goddrychol
a hynod ddifyr o bedwar safbwynt gwahanol ond ategol".
Ar ôl paned a’r
cymdeithasu arferol cynhaliwyd cyfarfod busnes byr.
Siaradodd Mark am Amgueddfa Pentywyn a gofynnodd a ddylai barhau a gwneud
trefniadau pellach ar gyfer ein Diwrnod Allan (Trip) ym mis Mai. Mwy
na thebyg Mai 17eg, pawb yn gytun.
Enwodd llefydd ar gyfer ein pryd ar ddiwedd y dydd yn Sanclêr
neu Hendy-gwyn.
Roedd Brenda wedi trefnu i’r Parch Wyn Maskell gymryd y gwasanaeth
yn Eglwys Sant Cristiolus, Eglwyswrw i nodi Diwrnod VE - Mai 8fed, Oedfa
am 7yh.
Cyn i’r cyfarfod ddod i ben, ar ran y Gymdeithas, cyflwynodd Diana
a Mark rhosyn diemwnt i Ken a Roseleen Rees a oedd yn dathlu eu Priodas
Ddiemwnt ar Fawrth 13eg.
Ebrill
Cynhaliwyd cyfarfod yn Yr Hen Ysgol nos Lun Ebrill 14 am
7.30yh.
Fel ym mhob cyfarfod busnes, fe wnaethom redeg ffilm fer cyn dechrau
trafod busnes. Roedd y ffilm yn sioe sleidiau o luniau Dydd Sadwrn Barlys
a dynnwyd gan Betty Wilson yn 2016.
Ond yn gyntaf, gofynnodd
ein Cadeirydd Diana V Thomas i’r aelodau sefyll am gyfnod mewn
distawrwydd fel arwydd o barch ac er cof am Leisa John, aelod ffyddlon
o’r Gymdeithas, a fu farw’n sydyn ar Fawrth 24ain.
Ar ôl y ffilm bu
cyfarfod busnes.
Darllenwyd yr ohebiaeth a'r cyhoeddiadau
arferol. Cafwyd un e-bost gan or-wyr y Parchedig Thomas Morgan Jones
a Henrietta Niagara Jones. Bu'r Parchedig Jones yn ficer plwyf Eglwyswrw
o 1876 hyd 1900. Rhoddodd yr e-bost hanes rhai o'u ddisgynyddion.
Mae Brenda wedi trefnu i’r Parch Wyn Maskell gymryd y gwasanaeth
yn Eglwys Sant Cristiolus, Eglwyswrw i nodi Diwrnod VE - Mai 8fed, bydd
Gwasanaeth am 7yh.
Byddwn yn ymweld â'r Amgueddfa Cyflymder, Pentywyn ar Fai 24ain
gan ddechrau o Eglwyswrw am 9.30yb, gan rannu ceir fel yn y blynyddoedd
blaenorol. Bydd Mark yn trefnu taith dywys o amgylch yr amgueddfa. O
Bentywyn byddwn yn mynd i Dalacharn ac yn ymweld â chartref Dylan
Thomas ‘Boathouse’ ac yna aros am bryd gyda'n gilydd ar
y ffordd adref.
Buom yn trafod materion yn ymwneud a’r Eisteddfod Genedlaethol
2026 (Eisteddfod y Garreg Las) a gynhelir ger Llantwd y flwyddyn nesaf.
Cafwyd trafodaeth faith i wneud a chael presenoldeb ar y ‘Maes’
ar y cyd â chymdeithasau neu grwpiau hanes lleol eraill, nid oes
yr un grwp arall wedi cysylltu a ni hyd yn hyn. Gall y gost o gael pabell
ar faes yr Eisteddfod drwy gydol y digwyddiad fod yn anfforddiadwy.
Daeth y cyfarfod i ben gyda’r paned o de arferol a chlonc.
Mai.
Dathliad ‘Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop’ yn Eglwyswrw.
Roedd yn bleser gweld pobl o bell ac agos yn yr Eglwys i gymryd rhan
mewn gwasanaeth pwrpasol gan y Parchedig Wyn Maskell. Yn cofio “milwyr,
morwyr ac awyrenwyr a roddodd eu bywydau yn atal drwg ac i wrthwynebu
gormes” a “Diolchgarwch i’r rhai sy’n parhau
i ymdrechu dros heddwch ar y cyfandir hwn”.
Roedd didwylledd y gynulleidfa yn amlwg yn y casgliad hael ar gyfer
y ‘Royal British Legion’. Rydym yn gwerthfawrogi yn fawr
gwaith y rhai a drefnodd y digwyddiad a’r rhai a weinodd y te
yn Yr Hen Ysgol ar ôl y gwasanaeth. Da iawn bawb.
Mai.
Cynhaliodd Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw eu cyfarfod misol ar nos
Lun 12fed o Fai yn Yr Hen Ysgol.
Cyflwynwyd y siaradwr gan Mark Cole a'i disgrifiodd fel 'gwas cyhoeddus
gwych i bobl Sir Benfro'. Dr Simon Hancock MBE, curadur Amgueddfa Tref
Hwlffordd, Cynghorydd Sir, ac yn ymwneud â llawer o weithgareddau
elusennol eraill.
Mae Simon wedi bod yn Faer Neyland un ar ddeg o weithiau, tref ei enedigaeth.
Teitl ei gyflwyniad oedd 'Llongddrylliadau Hanesyddol Sir Benfro'.
Gan ddefnyddio delweddau a ddangoswyd ar y sgrin fawr, disgrifiodd longddrylliadau
o’r cyfnod Rhufeinig a'r Llychlynwyr (Vikings) a ymwelodd
â Sir Benfro o'u canolfannau yn Iwerddon hyd golled y Sea Empress
ym 1996.
Gofynnodd i'r gynulleidfa geisio dychmygu arswyd bod ar long oedd yn
suddo. Dywedodd fod arfordir Sir Benfro yn enwog am longddrylliadau
oherwydd ei lleoliad yn ymestyn allan i'r môr ac yn agos at lonydd
longau, prysur.
Disgrifiodd longddrylliadau drwy'r oesoedd, gan sôn am sawl storm
arwyddocaol a'u canlyniadau.
Storm y Royal Charter ym mis Hydref 1859, a alwyd felly oherwydd bod
y llong o'r enw wedi suddo oddi ar arfordir Ynys Môn ar ei ffordd
o Melbourne, Awstralia i Lerpwl, gan golli tua 450 o fywydau a llawer
o aur a gludwyd gan chwilwyr aur llwyddiannus.
Yr un storm golchodd i ffwrdd y rhan fwyaf o Eglwys Sant Brynach a’r
fynwent yn Cwm yr Eglwys ger Dinas, ac yn gyfrifol am lawer mwy o farwolaethau
ar y môr.
Disgrifiodd storm fawr 1703, a achosodd miloedd o farwolaethau, mae'n
debyg mai dyma'r storm waethaf a gofnodwyd erioed ym Mhrydain. Gan ymddiheuro
am gymryd cymaint o amser gyda'i gyflwyniad, nid bod neb yn poeni,
daeth i ddiwedd ei sgwrs gyda digwyddiad trychinebus y Sea Empress a
gollodd tua 70,000 tunnell o olew crai i'r môr, trychineb amgylcheddol
enfawr. Ond roedd Simon wedi'i synnu gan bwer natur i ymadfer. Gan orffen
y noson gyda phaned o de a'r cymdeithasu arferol, cawsom ein cyflwyno
i'r llyfr a gynhyrchwyd gan Simon, 'Hanes Ffotograffig Hwlffordd Fictoraidd
ac Edwardaidd'. 1860 – 1914’, prynwyd copi gan y Gymdeithas
er budd ei haelodau. Cynhaliodd Diana a Mark gyfarfod busnes byr i esbonio’r
rhaglen ar gyfer ein diwrnod allan dydd Sadwrn y 24ain, byddwn yn ymweld
ag Amgueddfa Cyflymder Pendine a chartref Dylan Thomas yn Nhalacharn.
Gyda phryd o fwyd yn hwyr prynhawn yn y Savoy, San Clêr ar ein
ffordd adref.
Y Trip
Ar ddydd Sadwrn y 24ain o Fai, fe wnaeth 14 o aelodau a ffrindiau ymweld
ag Amgueddfa Cyflymder Pendine, gadael Eglwyswrw tua 9.30yb a chyrraedd
yr amgueddfa yn brydlon. Roedd Mark wedi trefni taith dywys o’r
amgueddfa ac wedyn bu amser rhydd i astudio'r arddangosfeydd, a chael
paned yn y caffi cyn symud ymlaen i Talacharn. Yno cafwyd peth hanes
Dylan Thomas gan Mark, a soniodd am ei gysylltiad a Llandudoch pan oedd
Dylan yn ei arddegau, cyn mynd i ymweld a’i gartref y ‘Boathouse’.
Bu peth amser rhydd wedyn cyn mynd am bryd o fwyd i’r Savoy, San
Clêr ar ein ffordd adref. Diolch i’n ysgrifennydd Mark Cole
am y trefniadau.
Mehefin
Ar Fehefin 9fed cynhaliwyd cyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol. Cyn mynd
ynghyd a trafod busnes, dangoswyd ffilm, rhan un o bump o ffilm o waith
y diweddar Lance Cole, Hanes ‘Y Ffarm’ drwy gydol y flwyddyn,
bydd y rhannau eraill yn cael ei dangos mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Wedyn ymlaen i drafod yr agenda.
Byddwn yn ymweld â chastell Aberteifi ar Orffennaf 14eg, mae Mark
wedi trefnu taith dywys gan Glen Johnson am 2.00pm, pawb i gyfarfod
yn y castell, mae tocyn dydd yn £8 i oedolion, plant £5.
Bydd y cyfarfod busnes
nesaf yn Yr Hen Ysgol, Eglwyswrw am 7.30yh ar Fedi'r 8fed.
A bydd y cyfarfod hwnnw'n dechrau gyda dangos ail bennod 'The Farm',
ffilm a grëwyd gan y diweddar Lance Cole.
Swyddogion ar
gyfer 2025.
Cadeirydd - Diana
Vaughan Thomas.
Is-gadeirydd -
Jeff West.
Ysgrifennydd -
Mark Cole.
Trysorydd - Brenda
James.
Archwilydd - Adrian
Charlton.