Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Gwybodaeth a Digwyddiadau i ddod.
Home

Yn ein casgliad hyd nawr mae rhai cannoedd o luniau wedi eu sganio, yn cynnwys mapiau; posteri gwerthiant; derbynebau taliadau; toriadau papur newydd; barddoniaeth; tua 1200 o luniau ac amrywiol bapurau eraill a dogfennau sydd yn gysylltiedig a’r ardal. Yr ydym wedi gwneud y casgliad yma drwy ofyn i bobl am fenthyg lluniau a dogfennau am amser byr, byddwn yn sganio rhain ac yn eu cadw yn ein casgliad digidol. Mae rhan fwyaf wedi eu argraffu ac yn cael eu harddangos ar Ddiwrnodau Agored. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl sydd wedi rhoi benthyg lluniau neu unrhyw beth arall, dim ond drwy eu caredigrwydd yr ydym wedi bod mor llwyddiannus fel Cymdeithas. Yr ydym a diddordeb mewn hanes o bob math, ffermydd; tafarndai; tai preifat a’r bobl oedd yn byw ynddynt. Yr oedd Ffair Feigan yn enwog trwy’r wlad, ond nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i un llun o’r ffair eto, mae’n debyg bu ffotograffydd yn bresennol mewn rhai ffeiriau ond mor belled does dim un llun wedi dod i’n meddiant. Mae gennym wybodaeth am eglwysi, capeli a mynwentydd - Bethabara, Capel y Bedyddwyr; Capel Annibynnol Penygroes; ac Eglwys Sant Cristiolus, Eglwyswrw, a gallwn gael gwybodaeth am gapeli a mynwentydd eraill yn ein hardal. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn bywyd yn yr ardal amser y ddwy Rhyfel Byd, yn arbennig hanes y bobl a fu yn y fyddin. Os oes gennych hen luniau o’r ardal, neu unrhyw hanes am yr ardal yr ydych yn fodlon eu rhannu, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu a ni. Ac os gallwn ni fod o gymorth i’r rhai sydd a diddordeb yn ein ardal fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Rhaglen 2026

12 Ionawr - Yr Hen Ysgol. Siaradwr - Richard Ireland - Y Ceffyl Pren.
Ffurf draddodiadol Gymreig o gywilyddio cyhoeddus a chyfiawnder torfol.

9 Chwefror - Yr Hen Ysgol. Cyfarfod Busnes.

9 Mawrth - Yr Hen Ysgol. Siaradwraig / Siaradwr -
- Anita Thomas a Max Thom ‘Amrywiaeth Forwrol Aberporth’.

13 Ebrill - Yr Hen Ysgol. Cyfarfod Busnes.

11 Mai - Yr Hen Ysgol. Siaradwr -
- Phil Davies 'Hen Deulu Trewenfron'.

Mai - Ymweliad. (Trip). Manylion i'w penderfynu yn cyfarfodydd busnes.

8 Mehefin - Yr Hen Ysgol. Cyfarfod Busnes.

13 Gorffennaf - Ymweliad gyda'r hwyr.

Awst - Dim cyfarfod.

14 Medi - Yr Hen Ysgol. Cyfarfod Busnes.

12 Hydref - Yr Hen Ysgol. Siaradwr -
- Idris Rees 'Y dyn o Sir Benfro a sefydlodd Queenstown, Seland Newydd.

9 Tachwedd - Yr Hen Ysgol. C.C.B. Cyfarfod Busnes.

14 Rhagfyr - Dathlu’r Nadolig. Manylion i'w penderfynu yn ystod y flwyddyn.

Bydd pob cyflwyniad yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Bydd y rhan fwyaf o gyfarfodydd busnes yn dechrau trwy ddangos ffilm fer neu atyniad arall o ddiddordeb lleol.

Aelodaeth eleni - £10.

I ymuno â ni fel gwestai ar gyfer unrhyw un o'r cyflwyniadau uchod - £3


Cynhelir ein cyfarfodydd ar ail nos Lun y mis yn Yr Hen Ysgol, Eglwyswrw gan ddechrau am 7.30yh oni bai hysbysebir yn wahanol.

Gartref   Home