Mae’r
bechgyn o ardal Eglwyswrw a syrthiodd yn ystod y Ddwy
Ryfel Byd wedi eu hanrhydeddu gyda Chofeb newydd.
Cafodd gwasanaeth Coffa a Chysegru y Gofeb newydd ei gynnal
yn Eglwys St Cristiolus ar Ddydd Sul y 10fed o Awst.
Er gwaethaf glaw trwm a storom daranau, roedd yr eglwys
yn llawn a llawer yn gwrando ar y gwasanaeth o’r
tu allan.
Cafwyd cyflwyniadau gan Band Pres Wdig cyn y gwasanaeth
pan oedd y gynulleidfa yn cyrraedd yr eglwys ac ar adegau
yn ystod seremoni cysegru’r Gofeb.
Y Canghellor Canon Gerwyn Morgan oedd yn arwain y gwasanaeth
gyda chymorth y Parch Gwynfi Jenkins a Mrs Hazel Burn.
Trefn y gwasanaeth yn fyr -
Croeso a chyflwyniad gan Mr Robert Smith (warden yr eglwys).
Darlleniadau gan Uchel Siryf Dyfed a hefyd Mr Islwyn Evans
(warden yr eglwys).
Anerchiad gan y Gwir Barchedig J.Wyn Evans, Arglwydd Esgob
Tyddewi.
Canwyd dau emyn yn ystod y gwasanaeth a’r organyddes
oedd Mrs Brenda James.
Parhawyd y gwasanaeth y tu allan lle dadorchuddiwyd y
Gofeb gan Mr Steven John o “West Wales War Memorial
Project” Amwythig. Bendithiwyd y Gofeb newydd gan
yr Arglwydd Esgob.
Cyhoeddwyd enwau'r milwyr gan y Cynghorydd John Davies,
ac am pob enw gosodwyd croes fach bren ger y Gofeb gan
blant lleol. Gosodwyd teyrngedau gan gynrychiolwyr penodol
ac aelodau teuluoedd y rhai a enwir. Yr Arglwydd Raglaw
Dyfed ddarllenodd 'Yr Anogaeth' ac ar ôl galwad
‘Last Post' bu dwy funud o dawelwch.
Yn dilyn yr anthemau a’r fendith derfynol roedd
lluniaeth wedi ei baratoi yn neuadd y pentref 'Yr Hen
Ysgol' lle bu byddin o ferched lleol dan arweiniad Mair
Rees MBE yn gweithio'n galed am oriau ar fore’r
Sul a'r diwrnod cynt.
Yno hefyd roedd arddangosfa o'i gwaith gan hanesydd lleol
yr ymchwilydd Heather Tomos sydd wedi ymchwilio a dogfennu
hanes pob un a enwir ar y Gofeb.
Roedd y digwyddiad ar y Sul wedi ei drefnu gan aelodau
eglwys St Cristiolus dan arweiniad warden eglwys Robert
Smith.
Ariannwyd y prosiect Cofeb Ryfel Eglwyswrw gan Gymdeithas
Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro ac maent yn ddiolchgar
i Gyngor Cymuned Eglwyswrw am eu rhodd, ac yn ddiolchgar
hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu.
Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw hefyd oedd yn gyfrifol
am y gwaith ymchwil gyda chymorth yr ymchwilwyr a’r
awduron Steven John; Heather Tomos a David Griffiths.
Dyluniwyd y Gofeb a'i hadeiladu gan Malcolm Gray o Glasfryn
Engraving, Tyddewi ac fe’i gosodwyd yn ei lle gyda
chymorth Dylan Thomas, Crane Hire, Boncath.
Mae y nifer o wirfoddolwyr parod o gychwyn y prosiect
hon bron ddwy flynedd yn nol, hyd y Gwasanaeth Cysegru
ar y Dydd Sul yn dystiolaeth o’r gwerthfawrogiad
a’r chydymdeimlad dwys i’r bechgyn a syrthiodd
a chyda eu teuluoedd.
|
Men
from the Eglwyswrw area who fell during both world wars
have been honoured with a new memorial. A service of Remembrance
and Dedication was held at St Cristiolus church on Sunday
August 10th.
Despite heavy rain and
a lighting strike on one of the sound relay speakers in
the cemetery, an overflowing church witnessed a very poignant
service and ceremony. Goodwick Brass band played before
the service as people entered the church and at times during
the ceremony and dedication of the memorial.
The service was conducted
by Canon Chancellor Gerwyn Morgan assisted by Rev Gwynfi
Jenkins and Mrs Hazel Burn.
Welcome and introduction was by Mr Robert Smith (church
warden). Reading by the High Sheriff of Dyfed and by Mr
Islwyn Evans (church warden). Address by the Right Reverend
J.Wyn Evans, Lord Bishop of St Davids.
The organist was Mrs Brenda James
The service continued outside as Mr Steven John of West
Wales War Memorial Project unveiled the memorial.
The blessing of the new memorial was by the Lord Bishop.
As the names of the fallen were read out by Councillor John
Davies, school children placed a small wooden cross for
each at the foot of the memorial. Tributes were laid by
dignitaries and families of the fallen. The Lord Lieutenant
of Dyfed read ‘The Exhortation’ and after sounding
of ‘The Last Post’ there was a two minutes silence.
Following the anthems and the final blessing there was food
at the village hall ‘Yr Hen Ysgol’ where an
army of local ladies led by Mair Rees MBE had worked hard
for hours on Sunday morning and the previous day.
There also, local historian and researcher Heather Tomos
who has researched and documented all those named on the
new war memorial had an exhibition of her work.
The whole event on Sunday was organized by St Cristiolus’
church members led by church warden Robert Smith.
The War Memorial project was financed by Eglwyswrw and District
Heritage Society and they are thankful to Eglwyswrw Community
Council for their donation, thanks also to all who have
contributed.
Research for the project was also done by the Heritage Society
with the help of researchers and authors Steven John; Heather
Tomos and David Griffiths.
The memorial was designed and constructed by Malcolm Gray
of Glasfryn Engraving, St Davids and installed with the
help of Dylan Thomas, Crane Hire, Boncath.
The amount of willing volunteers from the initial planning
of this project to the dedication service is evidence of
people’s overwhelming gratitude and sympathy to the
fallen and their families.
|