Cymdeithas
Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro
Eglwyswrw
and District Heritage Society |

|
Hanes
Teulu neu unrhyw ymholiadau eraill
Os oes gennych
ymholiadau hanes teuluol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r
cyswllt e-bost.
eglwyswrwheritage@gmail.co
FH001.
Thomas Thomas g1844 ym mhlwyf Eglwyswen (Whitechurch). Priododd Margaret
Davies yn mis Mai 1869; ganwyd hi yn 1842 ym mhlwyf Llandudoch (St Dogmells).
Unrhyw wybodaeth am rhieni Thomas neu Margaret os gwelwch yn dda..
FH002.
John Devonald a aned yn Eglwyswrw yn 1817. Yr oedd yn anghydffurfiol.
Roedd yn fab i David Devonald o Nanhyfer. Priododd Elizabeth Morris yn
Capel Ebeneser, merch Stephen Morris o Nanhyfer.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH003.
Thomas Nicholas g 1854 a’i wraig Hannah Phillips a gladdwyd yn Glanrhyd,
Llantood.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH004.
James Beddow g 1779; - Llantood, m 1863 - Ty Newydd (bellach Plas Preseli)
Brynberian a’i wraig Hannah g 1783.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH005.
Thomas Nicholas g 1794 - Ravel, Meline a Mary (ei wraig - g Bridell?)
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH006.
Morris Griffiths a’i wraig Esther (ganedig Phillips) c1800 –
Bridell.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH007.
Daniel Morgan g 1846 – ‘Whitchurch’, Caerdydd a’i
wraig Anne (ganedig Evans) (gallai fod yn ferch i weinidog gyda’r
Bedyddwyr - Pentyrch Caerdydd).
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH008.
Benjamin Lewis g 1801 - Llangoedmor.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH009.
Elizabeth (Bet) Lewis, Penrhywbroyan, g 1848 – Llantood. Ymfudodd
i Awstralia, (ffermio ffrwythau o bosibl yn ‘New South Wales’).
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.
FH010.
Rwyf yn ceisio sefydlu cyswllt rhwng y Parch Titus Lewis, Blaenwaun a
Chaerfyrddin, ac Lewis Morris, Penrhywbroyan, Llantood, a anwyd yn 1819.
(dogfennau teuluol yn dweud eu fod yn gysylltiedig). Byddaf yn falch o
unrhyw help.
FH011.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Benjamin Rees, [Bench] a oedd yn
yrrwr injan stêm ar gyda James, Frochest, Eglwyswrw yn y 1930au.
Hefyd o B.O. Davies contractwr injan stêm a dyrnu o Llandudoch.
Gwerthfawrogwn unrhyw luniau sy'n gysylltiedig a injan stêm neu
contractwyr dyrnu.
FH012.
Unrhyw wybodaeth am Edward Davies, ganwyd tua 1771. Credwn ei fod wedi
treulio ei holl fywyd yn Eglwyswrw. Ei broffesiwn oedd Ysgolfeistr, hefyd
unrhyw wybodaeth am ysgolion efallai ei fod wedi gweithio ynddynt oddeutu
1820 – 1840.
FH013.
Roedd Daniel ac Anne Evans a’u plant yn byw ym mhentref Eglwyswrw
ar adeg Cyfrifiad 1841,. Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth lleol am y teulu
hwn.
FH014.
Roedd Thomas Morgan Jones a Henrietta Niagara Jones (nee Thomas) yn byw
yn y Ficerdy, Eglwyswrw ar adeg Cyfrifiad. 1881 a 1891. Byddwn yn ddiolchgar
am unrhyw wybodaeth amdanynt boed yn enwau llawn, dyddiadau geni, neu
straeon personol am y teulu.
FH015.
Wnaeth Joseph Phillips, ynghyd a’i wraig, Mary, a thri o’r
plant hynaf, adael Cymru rywbryd rhwng 1751 a 1754 ac ymsefydlu yn “Pennsylvania”.
Yn 1763, priododd y plentyn hynaf, David, a Mary Thomas (ganed Mary yn
Sir Benfro yn1743 ). Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth o Gymru
i wneud a’r teulu hyn.
FH016.
Roedd Joshua Morris yn byw yn Eglwyswrw ac yn gweithio fel adeiladydd
cychod. Yn 1850au symudodd i “Penarth” (gyda aelodau eraill
o’r teulu) i adeiladu tai. Mae’n hysbys iddo gael ei eni yn
Fferm Cwmcenau ym mhlwyf Nanhyfer ar Fai 12fed, 1811. Byddwn yn gwerthfawrogi
gwybodaeth am y teulu hyn.
FH017.
Gwerthfawrogwn unrhyw luniau neu wybodaeth am Thomas Jenkins a/neu ei
ferch Mary E Jenkins a oedd yn byw yn Allt y Ddol, Eglwyswrw tua 1900
-1910.
FH018.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Daniel Edwards neu ei frodyr William
a John, bu y teulu yn ffermio Croesyforwyn Uchaf, Eglwyswrw yn y 1940au.
FH019.
Rwy'n edrych am unrhyw wybodaeth am y teulu Bevan. Roedd gan James Bevan
a'i wraig Mary blant - Evan, Elizabeth, Thomas, Albert ac Oliver. Bu Mary
farw yn 1895, a Priododd James a Rachel Rees. Byddem yn ddiolchgar am
unrhyw wybodaeth ar y teulu hyn.
FH020.
Ganwyd Capten John Grono - 1 Ionawr, 1767 yng Nghymru (Trefdraeth), roedd
ei dad sef Joel Grono wedi ei eni yng Nghymru yn 1740. Byddai unrhyw wybodaeth
sydd ar gael yn wych.
FH021.
Yr wyf yn ceisio enw tad Benjamin BOWEN. Mae ei fam wedi ei restru yng
Nghyfrifiad 1841, ei enw oedd Maria, g1791 yn Eglwyswrw. Roedd gan Benjamin
frodyr a chwiorydd - Jacob g1826, - Margaret g1828 a - John g1819, y rhai
hyn wedi ei geni yn Eglwyswrw. Ymhen amser, symudodd Benjamin i Dowlais
a phriodi Margaret HOWELL o Abertawe, ac yna aethant i America gyda 3
o blant. Roedd Maria Bowen yn byw yn Pantygarn yn 1841.
FH022.
Rydym yn chwilio am ffotograff o Syr William Howell Walters a anwyd yn
ardal St Mary, Hwlffordd yn 1857. Daeth yn Uchel Siryf Sir Benfro yn 1898.
FH023.
Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth am Henry Howard James (g1892, Arberth)
a'i frawd John Herbert James (g1894, Arberth). Dau beilot awyrennau cynnar.
FH024.
Rwyf yn credu fy mod yn perthyn i'r teulu Peregrine o Meline ac Eglwyswrw.
Ni all hyn gael ei brofi yn gyfan gwbl gan fod ein Peregrine ni hefyd
yn byw yn Llanycefn a Llandysilio, Sir Benfro o tua 1780au. Yn 1839 yn
Swyddfa Gofrestru Arberth fe wnaeth Mary Peregrine o Llanycefn briodi
Daniel Peregrine o Eglwyswrw. Roedd fy hen hen famgu sef Lettice Peregrine
yn chwaer i Mary Peregrine.
Rwyf wedi clywed fod y Pergrines a ddaeth i Eglwyswrw ac ardaloedd eraill
o Sir Benfro tua 1600 wedi dod o'r Iseldiroedd i ddianc rhag erledigaeth
grefyddol naill ai gan y Brenin Ffrangeg neu Sbaeneg a oedd wedi concro’r
Iseldiroedd. Eu bod naill ai'n Hiwgenotiaid Ffrangeg neu Walloons o Wlad
Belg. Roedd y ddau o'r grwpiau hyn yn Brotestaniaid. Yr oedd y Devonalds
a Marsdens o Eglwyswrw hefyd o Ffrainc / Gwlad Belg wedi cyrraedd y wlad
hon tua 1600. Credir i’r bobl hyn ddod i Eglwyswrw drwy borthladd
Aberteifi, a bod y rhan fwyaf ohonynt yn wehyddion.
FH025.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Caleb Evans a anwyd - Eglwyswrw
1751 neu ei ferch Elizabeth Protheroe anwyd - Eglwyswrw c 1790.
FH026.
Beibl Sarah Ann Thomas - sy'n dyddio 1857, gyda nodyn mewn llawysgrifen
y tu fewn yn dweud – Glandwr, Cenarth.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth ar yr uchod neu'r teuluoedd - Thomas;
- Rees neu Jenkins a oedd yn byw yn yr ardal honno yn ystod y cyfnod hwnnw.
FH027.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol - Lydia
Reynolds, g1845 - Plwyf Cilgwyn, Nanhyfer, - Rhieni oedd - James ac Anne,
- brodyr a chwiorydd - Asa; Hanah; Daniel; Eliza a Lettice.Roeddent yn
byw yn Penparke ger Brynberian, Sir Benfro yn 1851.
Priododd Lydia John Williams, roedd ganddynt blant Minnie a Joseff a anwyd
yng Nghasnewydd, Sir Fynwy.
FH028
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth am deulu - Thomas REES a anwyd
yn mhlwyf Meline, sir Benfro yn 1774, wnaeth yn gynnar yn ei fywyd (c1791)
gymryd rhan weithredol yng Nghapel Annibynwyr Brynberian.
Mae Thomas REES wedi ei gladdu yn Nghapel yr Annibynwyr yn Huntington,
lle'r oedd am amser hir yn weinidog ac ysgolfeistr.
FH029
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth am deulu - John a Mary Davies,
a fu'n byw yn Croes y Forwyn a Pencwm.
Mae eu bedd yn mynwent Capel y Bedyddwyr - Ebeneser Dyfed.
Bu farw JOHN DAVIES - 11 Tachwedd, 1905 yn 77 mlwydd oed.
Bu farw MARY DAVIES - 4 Ebrill, 1911 yn 76 mlwydd oed.
Cyfenw Mary cyn iddi briodi oedd Evans a'i theulu yn byw yn Bancau Bach,
Eglwyswrw.
FH030
Rydym yn chwilio gwybodaeth am y teulu Watkins, thafarnwyr y Serjeants
Inn, Eglwyswrw drwy'r rhan fwyaf o'r 19eg ganrif.
Byddai unrhyw wybodaeth am unrhyw dafarnwyr eraill yn Eglwyswrw yn cael
ei werthfawrogi'n fawr.
FH031
Byddai unrhyw wybodaeth wrth ddisgynyddion teuluoedd a wnaeth
darddu, neu byw yn ardal Eglwyswrw yng ngogledd Sir Benfro sydd bellach
yn byw mewn rhannau eraill o'r byd fod o ddiddordeb mawr i'n Cymdeithas.
Gwerthfawrogwn unrhyw hanes. Diolch.
FH032
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda ar John Thomas c1779 - 1866 o Nanhyfer
a Threfdraeth, Sir Benfro.
Bu John yn gwasanaethu yn y fyddin, ac roedd yn Quebec yn 1816.
Roedd yn siopwr yn Nhrefdraeth ar adeg cyfrifiad 1841 a 1851.
Ei wraig oedd Margaret, dau o'u plant oedd Eleanor ac Elizabeth, efallai
roedd mwy!
FH033
Benjamin Davies a oedd yn weithiwr fferm yn Berllan, Eglwyswrw. Priododd
Benjamin â Jane Watts o Selvage, Eglwyswrw. Roedd hyn yn y 1850au.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth
FH034
Adroddwyd stori fod ymsefydlwyr gannoedd o flynyddoedd yn ôl wedi
dod i ymgartrefu yn Crosswell a chymryd yr enw ‘Crosswell’
fel enw eu teulu. Rydym yn croesawu unrhyw gyfraniad i'r stori.
FH035
Unrhyw wybodaeth am landlordiaid y Trewern Arms, Nanhyfer 1860 i 1890
a'r teulu a oedd yn landlordiaid yn Nhafarn y Serjeants, Eglwyswrw ym
1900 neu ar unrhyw adeg arall.
FH036
David Phillips, Butchers Arms, Eglwyswrw. Roedd yn gigydd a bu farw ym
1874.
Gwerthfawrogwyd unrhyw wybodaeth am deulu'r uchod.
FH037
Rydym yn croesawu gwybodaeth bellach am Mary Devonald a briododd Edmund
Blathwayt yn Eglwyswrw ar ddechrau'r 19fed ganrif.
FH038
Teulu John James 1793, ei wraig Margaret, ei fab William 1827 a’i
wraig Hannah. Ganed John yn Eglwyswen a symudodd i ardal Llanfyrnach tua
1820. Gwerthfawrogwyd unrhyw wybodaeth.
FH039
Teulu Idris Mathias 1881- 1917 a fu farw yn y Rhyfel Byd 1 ac wedi ei
gofnodi ar y Gofeb yn Eglwyswrw. Mab oedd i David a Lydia Mathias, Ffynonlas,
Eglwyswrw.
FH040
Y Parch Thomas Evans 1807- 1876, ficer Eglwys Eglwyswrw hyd 1876.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am unrhyw un o’r
uchod.
|