Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Cyfarfodydd a Gweithgareddau 2023.
Home

Nodiadau o'r Cofnodion

Ionawr 2023
Cynhaliwyd ein cyfarfod mis Ionawr yn Yr Hen Ysgol ar ail nos Lun y mis yn ôl yr arfer. Ein siaradwraig wadd oedd Heather Tomos a theitl ei chyflwyniad oedd “Pam oedd plant lleol yn absennol o’r ysgol yn oes Fictoria”. Disgrifiodd Heather addysg yn y 1800au a’r rhesymau pam na allai llawer o blant fanteisio ar yr addysg brin oedd ar gael ar y pryd. Nid oedd rhai teuluoedd yn gallu fforddio anfon eu plant i'r ysgol, a roedd rhai plant yn cael eu cadw adref i weithio ar ffermydd, yn enwedig adeg y cynhaeaf ac roedd llawer o resymau eraill am eu habsenoldeb.
Deddf Addysg Elfennol 1870 oedd y gyntaf o sawl deddf seneddol a basiwyd rhwng 1870 a 1893 i greu addysg orfodol yng Nghymru a Lloegr i blant rhwng 5 a 13 oed. Fe'i hadwaenid fel ‘The Forster Act’ ar ôl ei noddwr William Forster.
Hyd yn oed wedyn roedd dirwyo rhieni teuluoedd mawr am absenoliaeth eu plant yn gwneud hi'n llai tebygol iddynt fforddio addysgu eu plant. Cafodd Heather lawer cwestiwn gan yr aelodau, a braf oedd gweld bachgen o oedran ysgol yn gofyn cwestiynau perthnasol a synhwyrol, a diolch i Heather am yr esboniadau trylwyr.

Cynhelir cyfarfod busnes ar yr ail nos Lun o Chwefror, a fydd yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb lleol. Siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mawrth fydd Mark Cole.

Chwefror, 2023
Cynhaliwyd ein cyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol ar Chwefror 13, yr ail nos Lun o’r mis fel yr arfer. Dechreuodd ein cyfarfod trwy ddangos ffilm sine a oedd wedi'i throsglwyddo i ffilm digidol yn dangos digwyddiadau lleol yn 1979 a'r 1980au, gan gynnwys clipiau o’r ‘Taith Gerdded Dydd Calan’ gyntaf ac achlysuron pentrefol eraill.
Yna gydag Glynwen Bishop yn y gadair cynhaliwyd cyfarfod busnes. Derbyniwyd gohebiaeth amrywiol ers ein cyfarfod busnes diwethaf, derbyniwyd adroddiad wrth William Morgan am “Rasys Ceffylau Lleol” yn disgrifio’r rasio ceffylau yn y 19eg ganrif a gynhaliwyd yn ardal Boncath, ymhlith y lleoedd a enwyd oedd Pentre; Cilast; a Blaenmigan, Boncath, ni wyddai neb o'n haelodau am yr olaf.
Roedd cais am wybodaeth am “Maenor Eglwyswrw”. Mike Bishop wnaeth ddelio a’r cais, ac un arall o New Jersey yn yr Unol Daleithiau yn ceisio gwybodaeth lleol, gyda Glynwen yn ymateb i hwn fel yr arfer.
Cytunwyd i roi llyfrau i Gartrefi Gofal yr ardal a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno gan Brenda; Dave; Glynwen ac Eileen.
Adroddwyd bod gan ein tudalen Facebook 410 o aelodau ar hyn o bryd ac mae'n parhau i gael derbyniad da.
Bydd ein diwrnod allan blynyddol eleni fel yn y gorffennol yn cael ei drefnu gan Brenda, gobeithiwn ymweld â Phantycelyn, cartref William Williams yr emynydd, yn ogystal â rhyw atyniad arall gerllaw.
Coroniad Siarl III ar ddydd Sadwrn, 6 Mai 2023, yn lle’r ‘Bore Coffi’ arferol ar y dydd Sadwrn, cynhelir ‘Te Prynhawn’ yn Yr Hen Ysgol y diwrnod canlynol (Sul) i ddathlu. Gofynnir i aelodau ddod ag eitemau cofiadwy y coroni yn y gorffennol neu unrhyw eitem addas arall i'w harddangos.
Oherwydd y tywydd ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ganslo ein dathliad Nadolig, gan gofio hyn awgrymwyd y dylem fynd am bryd pan fydd ein grwp yn ymweld â Chastell Aberteifi ym mis Gorffennaf.
O dan ‘unrhyw fusnes arall’ buom yn trafod codiad taliadau llogi y neuadd ‘Yr Hen Ysgol’; mae'r cynnydd anochel hyn oherwydd pris ynni.

Siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mawrth fydd Mark Cole.

Mawrth 2023
Ein siaradwr ar gyfer ein cyfarfod ym mis Mawrth oedd Mark Cole, a theitl ei gyflwyniad oedd - ‘Teulu Thomas, Ty Rhos, Rhos Glynmaen’ ‘Teulu Eglwyswrw: i Khartoum a’r Kremlin’
Rhoddodd Mark hanes manwl y teulu o 1823 hyd y presennol. Soniodd am yr ymdrech a wnaed gan Dafydd ac Elizabeth Thomas (Deio a Leisa) Ty Rhos, plwyf Eglwyswen i addysgu eu plant, buont yn cynnal Ysgol Sul yn Nhy Rhos i blant lleol. Bu Dafydd yn ymwneud ag adeiladu capel y Bedyddwyr, Bethabara, a agorodd yn 1826. Yn 1849, symudodd y teulu i Pantygarn, Eglwyswrw, fferm 33 erw. Saer maen oedd Dafydd, a dysgodd ei feibion y grefft yn ifanc. Rhoddodd Mark hanes y plant, yr enwocaf efallai oedd Benjamin Thomas ‘Myfyr Emlyn’. gweinidog y Bedyddwyr, bardd, darlithydd, ac awdur. Soniodd am yrfaoedd holl blant Ty Rhos a rhai o’u disgynyddion, roedd yna rhagor o weinidogion y Bedyddwyr yn ogystal â beirdd, actorion, a chyfarwyddwr ffilm. Gwnaeth y teulu eu marc mewn sawl maes, o rhos Glynmaen ac Eglwyswrw i lefydd pell ar draws y byd, a dyna pam y ceir cyfeiriad yn y teitl ‘To Khartoum & the Kremlin’. Talodd deyrnged i Ethel James, disgynnydd, awdur y llyfryn a gynhyrchwyd yn 1976 i ddathlu pen-blwydd Bethabara yn 150 oed, gwnaeth cywirdeb y wybodaeth ei rhyfeddu, am nad oedd ganddi dechnoleg fel sydd gennym heddiw na chofnodion parod ar gael i'w helpu a’r gwaith ymchwil.
Cafodd llawer o ddisgynyddion Dafydd ac Elizabeth eu lladd neu eu anafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Priododd merch ieuengaf Dafydd ac Elizabeth â Stephen Lewis, Carnhuan, ac roedd y cwpl yn byw ym Mhantygarn, a magwyd eu plant yno.
Mae Mark wedi bod yn ymchwilio hanes ei deulu ers blynyddoedd, a chawsom y fraint o gael blas o’r hyn y mae wedi’i ddatgelu, ac fe wnaeth y gynulleidfa fawr ddangos eu gwerthfawrogiad. Wedyn, fe wnaethom fwynhau peth amser yn cymdeithasu gyda phaned o de.

Fydd ein cyfarfod nesaf ar Ebrill 17eg wythnos yn hwyrach nag arfer. Cyfarfod busnes a fydd yn dechrau trwy ddangos ffilm fer.

Ebrill 2023
Gan fod yr ail ddydd Llun o’r mis yn ddydd Llun y Pasg, cynhaliwyd cyfarfod mis Ebrill wythnos yn hwyrach nag yr arfer. Braf oedd gweld cymaint yn Yr Hen Ysgol gan fod cyfarfodydd busnes fel arfer yn faterion tawel. Dechreuodd y noson drwy ddangos ffilm fer o arwerthiant fferm Nantyrhelyngen Fawr a gafodd ei ffilmio’n fedrus gan y diweddar Mr Lance Cole. Cynhaliwyd yr arwerthiant ar 26ain o Fehefin 1992. Er y tristwch, braf oedd gweld cymaint o wynebau cyfarwydd nad ydynt gyda ni bellach. Bydd yr ail ran a rhannau eraill o'r ffilm yn cael eu dangos mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Dilynwyd hyn gan gyfarfod busnes dan gadeiryddiaeth Glynwen Bishop. Roedd gohebiaeth, un o America gan rywun fydd yn ymweld â'r ardal yn ddiweddarach eleni. Treuliwyd peth amser yn trafod ein diwrnod allan sy'n cael ei drefnu gan Brenda fel yn y blynyddoedd gynt. Ar ddydd Sadwrn, Mai 20fed am 9.00 y bore byddwn yn gadael Eglwyswrw, ac yn teithio i Llanymddyfri, ar ôl arhosiad byr, byddwn yn teithio’r bedair milltir i fferm Pantycelyn, cartref William Williams yr emynydd, awdur, bardd ac arweinydd crefyddol enwog. 1717 – 1791. Oddi yno dychwelwn i Llanymddyfri am luniaeth cyn ymweld ag Eglwys Llanfair ar y Bryn a bedd William Williams. Mae Brenda wedi trefnu tywyswyr ar gyfer yr eglwys a’r amgueddfa lle byddwn yn ymweld yn hwyrach. Ar y ffordd adref byddwn yn aros Nantyffin, Llandisilio am bryd o fwyd.
Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch â ni, cysylltwch â Brenda ar 01239 841710. Pawb i drefnu eu cludiant eu hunain. Byddwn yn rhannu ceir yr un fath â'r llynedd, gyda theithwyr yn cyfrannu at gost tanwydd. I gloi y noson mwynhawyd paned arferol o de a sgwrs.

Bydd ein cyfarfod nesaf ar Fai 8fed a’n siaradwraig fydd Eirlys Thomas, ei chyflwyniad fydd ‘Araf Gerdded Llwybr Arfordir Cymru’ a gwblhawyd ganddi rai blynyddoedd yn ôl.

Mai 2023
Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a’r Fro.
Daeth nifer dda i’n cyfarfod yn Yr Hen Ysgol nos Lun, Mai 8fed, ein siaradwraig gwadd oedd Eirlys Thomas, ei chyflwyniad oedd ‘Araf Gerdded Llwybr Arfordir Cymru’.
Cwblhaodd Eirlys a’i ffrind Lucy O’Donnell y daith 870 milltir ychydig flynyddoedd yn ôl. Disgrifiodd Eirlys eu profiadau ar hyd y ffordd, o’r diwydiannol de Cymru, i’r ardaloedd mwy gwledig y gorllewin a’r gogledd, gyda llawer iawn o luniau wedi'u taflunio ar y sgrin fawr a darlleniadau o'r llyfr a gyhoeddwyd ganddynt yn ddiweddarach. Roedd ddim rhaid i ni adael ein seddau i fwynhau’r golygfeydd bendigedig a chlywed am y nifer o lefydd diddorol y buont yn eu hymweld ar hyd y daith.
Ar yr 20fed o Fai, teithiodd aelodau y Gymdeithas i Llanymddyfri, ymwelsom â Phantycelyn, cartref yr emynydd William Williams yr hwn a anwyd yn 1717 yn Cefn Coed, Llanfair-ar-y-bryn, sir Gaerfyrddin, ac a fu farw Ionawr 11,1791, ym Mhantycelyn. Ysgrifennodd mwy na 900 o emynau a llawer o lyfrau, un emyn â chysylltiad lleol yw “Dros y bryniau tywyll niwliog” a’i ysgrifennwyd (yn ôl y sôn) wrth edrych ar Garn Ingli yn ystod ymweliad â Maenordy Llwyngwair, Trefdraeth, cartref y teulu Bowen, yn 1772.
Cawsom groeso cynnes gan disgynnydd i’r emynydd, Mr Cecil Williams a’i wraig.
Yna am luniaeth i dref Llanymddyfri a oedd yn barod i groesawi Eisteddfod yr Urdd cyn ddiwedd y mis. Yn y prynhawn buom yn ymweld â Llanfair ar y bryn a bedd William Williams, a chawsom hanes yr Eglwys gan ein tywysydd, Mr Dai Gealy, warden yr Eglwys.
Ymlaen wedyn i'r Amgueddfa a'r gofeb newydd i William Williams, o waith Gideon Petersen, ac yno i’n croesawu roedd Maer Llanymddyfri, Mrs Sarah Georgina Jones a’i chymar Mr Dan Jones. Cyn ymadael, wnaeth Mrs Jones ein harwain o amgylch y dref i ddangos leoedd o bwysigrwydd hanesyddol.
Ar ein taith adref mwynhawyd pryd o fwyd yn Nantyffin, Llandisilio, lle cafwyd cwmni aelodau eraill na fedrai wneud y daith i Llanymddyfri.
Llongyfarchiadau a diolch i Brenda James ein trysorydd am drefni diwrnod allan llwyddiannus arall (Ein Trip), fel yn y blynyddoedd gynt, gyda phopeth wedi'i gynllunio yn berffaith.

Yn ein cyfarfod ar Fehefin 12fed, yn Yr Hen Ysgol am 7.30yh
Byddwn yn dangos ffilm yn cynnwys chyfweliad gyda chymeriad diddorol y cawsom y fraint o'i gyfarfod ar ein diwrnod allan yn Llanymddyfri ar ddydd Sadwrn, Mai 20fed.
Ar ôl y ffilm a fydd yn para tua awr, byddwn yn cynnal cyfarfod busnes byr a chael paned arferol o de a sgwrs.

Mehefin 2023
Cyfarfu Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw ar Fehefin 12fed, yn Yr Hen Ysgol.
Dangoswyd ffilm yn cynnwys cyfweliad gyda chymeriad diddorol y cawsom y fraint o’i gyfarfod ar ein diwrnod allan yn Llanymddyfri ar ddydd Sadwrn Mai 20fed. Mr Gealy oedd ein tywysydd yn eglwys Llanfair ar y Bryn. Ar ôl yr ymweliad fe benderfynom ddarganfod mwy am y gwr oedrannus hwn oedd wedi gadael argraff bositif arnom, roeddem hefyd yn teimlo drosto pan na allai agor yr organ gan fod gennym organyddion dawnus yn ein grwp. Am ryw reswm roedd yr organ dan glo, a doedd ganddo ddim yr allwedd. Roedd cerddoriaeth yn bwysig iddo.
Buom yn ffodus i ddarganfod ar y we, ffilm o gyfweliad gyda David (Dai) Gealy a recordiwyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Roedd Dai wedi bod yn ddisgybl ac yn feistr yng ngholeg Llanymddyfri, felly roedd wedi gwario rhan fwyaf o’i oes yn yr ysgol. Aeth i goleg Llanymddyfri am y tro cyntaf yn blentyn yn y 1940au a phan ofynnwyd iddo sut roedd yn teimlo pan gyrhaeddodd, “Roeddwn yn teimlo fel fy mod yn mynd i mewn i garchar” oedd yr ateb, disgrifiodd ei deimladau wrth gyrraedd yr ysgol breswyl o’r pentref bychan Lechyfedach, roedd yn cofio n iawn gael ei alw'n ‘yokel’ gan eraill oherwydd ei acen Gymreig, roedd yn cyfri ei hun yn ffodus ei fod wedi gallu gwneud dau neu dri o ffrind agos yn fuan ar ôl cyrraedd. Roedd y ffilm yn rhy ddiddorol i beidio a’i rhannu, felly trodd ein cyfarfod busnes yn ‘noson ffilm’ ac yna cyfarfod busnes byr i ddilyn. Gyda Glynwen yn y gadair, aethom drwy’r eitemau a restrir ar ein agenda, gwnaethom benderfyniadau a thrafod sawl pwnc, a’r pwysicaf oedd newid cynllun ein cyfarfod ym mis Gorffennaf. Roeddem wedi bwriadu ymweld â Chastell Aberteifi, ond oherwydd cymhlethdodau, penderfynom ymweld ag Eglwys Nanhyfer. Byddwn yn cyfarfod ger yr eglwys am 6.30yh, ein tywysydd fydd Mr Steve Watkins, wedyn byddwn yn mynd i’r Salutation Inn am bryd o fwyd.
Daeth ein cyfarfod i ben gyda phaned a sgwrs, diwedd dymunol i gyfarfod a fynychwyd yn dda.

Cyfarfod nesaf ger Eglwys Nanhyfer 6.30yh, Gorffennaf 10fed.

Gorffennaf 2023
Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 8fed ar ran Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw, roedd Mike ac a Glynwen Bishop unwaith eto yn codi arian gyda bwrdd llyfrau ail law yn sioe flynyddol CADAMM, a gynhelir ar Fferm Ceffylau Gwedd. Fel yn y blynyddoedd gynt, roedd yr arian a godwyd yn cael ei roi i elusen lleol. Y derbynnydd eleni o'r £60 a godwyd oedd ‘Ymatebwyr Cyntaf’, Gorsaf Dân Crymych sy’n darparu gwasanaeth amhrisiadwy i’n hardal.
Ar y 10fed, o Orffennaf, aeth trideg tri o aelodau a ffrindiau Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw i ymweld a Eglwys Sant Brynach, Nanhyfer. Dechreuodd ein tywysydd Mr Steve Watkins y daith dywys ger y ‘Bleeding Yew Tree’ sy’n gannoedd o flynyddoedd oed. Disgrifiodd Mr Watkins y ‘Carreg Vitalanus’ a leolir ger mynedfa’r eglwys gyda’i harysgrif Ogam a Lladin o’r 5ed neu’r 6ed ganrif a’r ‘Groes Geltaidd’ enwog o’r 10fed ganrif.
Gyda phawb yn eistedd y tu fewn, siaradodd Mr Watkins am hanes yr eglwys a sefydlwyd gan Sant Brynach yn y chweched ganrif, er ei fod yn credu bod pobl yn addoli yno lawer ynghynt.
Clywsom am hanes yr eglwys trwy yr oesoedd hyd y presennol. Cyn gadael dangosodd pwyntiau o ddiddordeb i ni, fel y siliau ffenestri sydd â cherfiadau Celtaidd cynnar a oedd ar un adeg mewn man arall yn yr eglwys. Bellach mae gan y clochdy a adnewyddwyd yn ddiweddar 10 cloch. Wrth adael yr eglwys treuliwyd peth amser yn crwydro’r fynwent i sain hyfryd, wrth i’r canwyr clychau ddechrau eu hymarfer. Ar y ffordd adref, mwynhaodd bawb bryd o fwyd yn y Salutation Inn, Felindre. Ein Cadeirydd, Glynwen Bishop ar ran pawb wnaeth y diolchiadau yn yr Eglwys ac am y croeso a’r gwasanaeth yn Nhafarn y Salutation. Ein diolch fel bob amser i’n Trysorydd Brenda James a wnaeth yr holl drefnu yn ei dull effeithlon arferol.

Dim cyfarfod ym mis Awst.

Medi 2023
Ar Fedi 11eg, cynhaliwyd ein cyfarfod busnes yn Yr Hen Ysgol. Roedd nifer dda yn bresennol. Fel gyda phob cyfarfod busnes yn ddiweddar, dechreuwyd drwy ddangos ffilm fer, a’r ffilm a ddangoswyd oedd yr 2il ran o Arwerthiant Fferm Nantyrhelygen Fawr a gynhaliwyd ym Mehefin 1992 a’i ffilmiwyd gan y diweddar Mr Lance Cole. Fe wnaethom hefyd ddangos ar y sgrin fawr, lun a gawsom yn ddiweddar o Bontyglasier, Eglwyswen a dynnwyd yn ôl pob tebyg tua 1900, cyn adeiladu’r bont tua 1905, fel bob amser, rydym yn falch iawn o gael lluniau o’r fath. Wedyn, cyfarfod busnes dan gadeiryddiaeth Glynwen Bishop.
Croesawodd Glynwen yr aelodau a diolchodd i Enid am ganiatâd i ddangos ffilm a wnaed gan ei diweddar wr.
Yn dilyn yr agenda, cyrhaeddom eitem 7 sef adolygiad o’n hymweliad ag eglwys Nanhyfer ym mis Gorffennaf. Disgrifiodd Glynwen yr ymweliad fel noson lwyddiannus a phleserus, diolchodd i bawb a fynychodd a diolchodd i Brenda yn arbennig am drefnu phopeth, a chymeradwywyd hyn gan yr aelodau.
Buom yn trafod ein rhaglen ar gyfer 2024 a hefyd dathliad y Nadolig eleni i’w gynnal ddechrau Rhagfyr fel yr awgrymwyd. Bydd Brenda yn gwneud ymholiadau a chawn wybod mwy yn ein cyfarfod nesaf.
Trafodwyd y gost o redeg ein gwefan a phenderfynwyd y dylai barhau, oherwydd, dros y blynyddoedd rydym wedi gallu helpu llawer o bobl o lefydd pell ac wedi dysgu llawer wrth wneud hynny.
Cyfarfod nesaf. Hydref 9, 2023, 7.30pm yn Yr Hen Ysgol.
Cyfle i bori llyfrau lloffion Mrs Vittle gyda John ‘Cwmbetws’ Davies.

Hydref 2023
Cynhaliwyd cyfarfod gwahanol nos Lun, Hydref 9fed yn Yr Hen Ysgol.
Daeth John Cwmbetws Davies â llyfrau lloffion i ni i’w gweld, sef gwaith y diweddar Mrs Olive Vittle, Brohedydd.
Roedd mwy na 60 mlynedd o hanes lleol wedi'i gofnodi mewn dwsinau o lyfrau lloffion. Pleser pur oedd gallu darllen am ddigwyddiadau’r dyddiau a fu, priodasau, angladdau, a phopeth o bwys a oedd yn newyddion dros y blynyddoedd, er y byddai’n cymryd amser hir iawn i’w darllen i gyd. Rydym yn hynod ddiolchgar i Dilwyn ac Ann Vittle am ganiatáu inni weld y trysorau hyn yng ngofal John. Gyda’r byrddau wedi eu gosod allan gyda llyfrau lloffion a phawb yn eistedd, croesawodd ein cadeirydd Glynwen bawb a gwahoddwyd John i agor y cyfarfod gydag ychydig eiriau. Fe ddisgrifiodd Mrs Vittle fel person oedd â diddordeb mewn pobl, cymydog caredig a hael y cafodd y fraint o’i hadnabod a threulio amser yn ei chwmni. Yna amlinellodd John rai o’r straeon o’r llyfrau, rhai doniol yn bennaf, gydag un neu ddwy arall yn fwy difrifol fel stori am y dyn a gyhuddwyd o drosedd ddifrifol iawn yn y llys ynadon a ddihangodd. Er fod llawer o heddlu y sir yn chwilio amdano, cafodd ei ail-ddal gan Bobi'r Pentref yn ddiweddarach. Daeth y cyfarfod i ben gyda phaned o de a dim prinder pynciau i’w trafod.

Bydd ein cyfarfod nesaf yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar Dachwedd 13eg.

Croeso i aelodau hen a newydd.

Tachwedd 2023
Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023 yn Yr Hen Ysgol ar nos Lun, Tachwedd 13. Ar ôl croesawi’r aelodau, a gan ddilyn yr agenda, soniodd Glynwen ein cadeirydd am ein gweithgareddau dros y flwyddyn ac am y siaradwyr a gawsom yn ein cyfarfodydd, ein diwrnod allan blynyddol, eleni, i Bantycelyn a Llanymddyfri ym mis Mai, a’r daith dywys o amgylch Eglwys Nanhyfer gan Steve Watkins ym mis Gorffennaf, gan ddiolch i Brenda am drefnu'r ddau ddigwyddiad.
Soniodd Glynwen hefyd am gyfarfod mis Hydref pan ddaeth John Cwmbetws â llyfrau lloffion Mrs Vittle i ni i’w gweld, a mynegodd ei diolch i Dilwyn ac Ann am adael i ni eu benthyca am y noson yng ngofal John a dywedodd y byddai’n croesawu’r cyfle i’w gweld eto gan fod cymaint ohonynt.
Diolchodd i Will am y ffilmiau byr a ddangoswyd ym mhob cyfarfod busnes trwy gydol y flwyddyn.

Yr ydym wedi cael llawer o ymholiadau yn ystod y flwyddyn, rhai wrth bobl a oedd wedi dod o hyd i’n gwefan tra yn gwneud hymchwiliadau. Mae llawer i ddysgu wrth ymateb i’r ymholiadau hyn.

Fe wnaeth Brenda ein Trysorydd adrodd am ein materion ariannol, er yn foddhaol, roedd ychydig yn llai yn y banc nag y llynedd.

Swyddogion 2024.
Ni wnaed cais gan aelodau am newid, gofynnwyd i’r swyddogion yn unigol a fyddent yn fodlon parhau yn eu swydd, a chytunodd pob swyddog i wneud blwyddyn arall..
Fydd ddim newid i'r tâl am aelodaeth, £10 am flwyddyn, a fydd tal ar y noson neu ddigwyddiad o £3 i rhai nad ydynt yn aelodau.
Bu cyfarfod busnes yn dilyn, lle bu trafod ar faterion a gwnaed penderfyniadau.
Wedyn mwynhawyd paned a sgwrs cyn troi am adre.

Rhagfyr 2023
Ar nos Lun, Rhagfyr 11eg, bu tua 40 o aelodau a gwesteion y Gymdeithas yn dathlu’r Nadolig yn y Salutation Inn, Felindre.
Yn absenoldeb ein Cadeirydd Glynwen trwy salwch, Diana Vaughan Thomas ein Is-Gadeirydd gymerodd yr awenau gyda weddi fyr cyn bwyta. Ar ôl mwynhau pryd hyfryd o fwyd, fe wnaeth Diana ddiolch i staff y Salutation am y bwyd ac am eu gwasanaeth siriol ac effeithlon, fe wnaeth ddiolch i Brenda ein Trysorydd am y trefniadau. John Cwmbetws Davies oedd ein siaradwr gwadd, diolchodd Diana i John a Bethan am dderbyn y gwahoddiad. Fe wnaeth John siarad gyda thema hanes lleol, siaradodd ychydig am ei atgofion yn blentyn ysgol, ac ymwneud y teulu â’r Cyngor lleol yn Eglwyswrw, pan ddaliai swydd Cadeirydd y Cyngor lleol yn y 90au, yr oedd yn dilyn traddodiad ei hynafiaid o’i flaen. Siaradodd am cymeriadau’r fro ac roedd yna lawer o chwerthin. Diolch i John am ddiweddglo perffaith i noswaith arbennig.
Fydd ein cyfarfod nesaf yn Yr Hen Ysgol ar Ionawr 8fed am 7.30yh. Cyfarfod busnes a fydd yn dechrau gan ddangos casgliad o ffilmiau sine a ffilmiwyd o gwmpas Eglwyswrw tua 60 mlynedd yn ôl. Croeso i aelodau hen a newydd.


Swyddogion ar gyfer 2024.

Cadeirydd - Glynwen Bishop.

Is-gadeirydd - Diana Vaughan Thomas.

Ysgrifennydd - Will Thomas.

Trysorydd - Brenda James.

Archwilydd - Adrian Charlton.

Bydd ein cyfarfodydd busnes yn dechrau drwy ddangos ffilm fer o ddiddordeb lleol.

Diolch aelodau am eich ffyddlondeb ac edrychwn ymlaen i’ch cwmni eto yn ein cyfarfod nesaf.
Gartref
 
Home