Yn ein casgliad hyd nawr mae rhai cannoedd o luniau wedi eu sganio, yn cynnwys mapiau; posteri gwerthiant; derbynebau taliadau; toriadau papur newydd; barddoniaeth; tua 1200 o luniau ac amrywiol bapurau eraill a dogfennau sydd yn gysylltiedig a’r ardal. Yr ydym wedi gwneud y casgliad yma drwy ofyn i bobl am fenthyg lluniau a dogfennau am amser byr, byddwn yn sganio rhain ac yn eu cadw yn ein casgliad digidol. Mae rhan fwyaf wedi eu argraffu ac yn cael eu harddangos ar Ddiwrnodau Agored. Yr ydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl sydd wedi rhoi benthyg lluniau neu unrhyw beth arall, dim ond drwy eu caredigrwydd yr ydym wedi bod mor llwyddiannus fel Cymdeithas. Yr ydym a diddordeb mewn hanes o bob math, ffermydd; tafarndai; tai preifat a’r bobl oedd yn byw ynddynt. Yr oedd Ffair Feigan yn enwog trwy’r wlad, ond nid ydym wedi llwyddo i ddod o hyd i un llun o’r ffair eto, mae’n debyg bu ffotograffydd yn bresennol mewn rhai ffeiriau ond mor belled does dim un llun wedi dod i’n meddiant. Mae gennym wybodaeth am eglwysi, capeli a mynwentydd - Bethabara, Capel y Bedyddwyr; Capel Annibynnol Penygroes; ac Eglwys Sant Cristiolus, Eglwyswrw, a gallwn gael gwybodaeth am gapeli a mynwentydd eraill yn ein hardal. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn bywyd yn yr ardal amser y ddwy Rhyfel Byd, yn arbennig hanes y bobl a fu yn y fyddin. Os oes gennych hen luniau o’r ardal, neu unrhyw hanes am yr ardal yr ydych yn fodlon eu rhannu, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu a ni. Ac os gallwn ni fod o gymorth i’r rhai sydd a diddordeb yn ein ardal fe wnawn ein gorau i’ch helpu.
2021 Yn anffodus ni allwn
ragweld pryd y bydd yn ddiogel cynnal cyfarfodydd eleni, felly ni allwn
baratoi rhaglen ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gohiriwyd Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar gyfer 2020. Ac yr un modd ni fydd
datganiad ariannol o incwm a gwariant a gwerth asedau y Gymdeithas yn
cael eu cyhoeddi nes bod modd cynnal y CCB. Diolchwn i bob aelod am eu ffyddlondeb yr y gorffennol gan edrych ymlaen i gael cyfle i gydweithio a chymdeithasu eto cyn hir.
|